Nod y Fenter Nofio Am Ddim yw cael mwy o bobl ifanc (16 oed ac iau) a thros 60 oed i ddysgu nofio a nofio yn fwy rheolaidd. Mae'n rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei rheoli gan Chwaraeon Cymru a'i darparu gan y 22 Awdurdod Lleol.
Sesiynau Nofio am ddim dros 60 oed ac o dan 16
Ar gael yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, Canolfan Hamdden Llanelli, Canolfan Hamdden Dyffryn Aman a Canolfan Hamdden Llanymddyfri fel a ganlyn:
Canolfan Hamdden Caerfyrddin
Sesiynau 60+
Dydd Llun: 9:00yh - 10:00yh
Dydd Mawrth: 8:15yb - 9:15yb
Dydd Iau: 2:45yp - 3:45yp
Dydd Gwener: 8:15yb - 9:15yb
Sesiynau 16 ac o dan
Dydd Sadwrn: 4.00yp - 5.00yp, ac eithrio'r dyddiadau canlynol, a fydd yn rhedeg rhwng 8.00yb - 9.00yb
Tachwedd 11eg, Tachwedd 18fed, Rhagfyr 9fed, Rhagfyr 16eg
Canolfan Hamdden Llanelli
Sesiynau 60+
Dydd Llun: 11:30yb - 12:30yp
Dydd Mawrth: 2:30yp - 3:30yp
Dydd Mercher: 2:45yp - 3:45yp
Dydd Iau: 11:30yb - 12:30yp
Sesiynau 16 ac o dan
Dydd Sul: 3:30yp - 4:30yp
Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
Sesiynau 60+
Dydd Mawrth: 1:00yp - 2:00yp
Dydd Mercher: 2:30yp - 3:30yp
Dydd Iau: 2:30yp - 3:30yp
Dydd Gwener: 2:30yp - 3:30yp
Sesiynau 16 ac o dan
Dydd Sul: 1:00yp - 2:00yp
Canolfan Hamdden Llanymddyfri
Sesiynau 60+
Dydd Mawrth: 10:30yb - 11:30yb
Dydd Iau: 10:45yb - 11:45yb
Sesiynau 16 ac o dan
Dydd Sul: 11.30yb - 12.30yb
Nofio Cyfeillgar i Ddementia
Mae’r sesiwn hon yn sesiwn hamddenol, dyner a chynhwysol i oedolion yn unig mewn amgylchedd diogel, cefnogol a chyfeillgar.
Ar gyfer pwy mae'r sesiwn yn addas? Unrhyw un sy'n byw gyda cholled cof oherwydd oedran, unrhyw un sydd am fwynhau ymarfer corff effaith isel i helpu i wella sefydlogrwydd, cydbwysedd, hyblygrwydd a hwyliau. Mae croeso mawr i ofalwyr.
Beth sydd angen i chi ei wybod am nofio a dementia
• Gall nofio gynnig ymdeimlad o les meddyliol, rhywbeth na ellir ei fesur yn hawdd ond sy'n aml yn cael ei grybwyll yn anecdotaidd gan gyfranogwyr.
• Mae'n clirio'r meddwl, yn annog positifrwydd ac yn adeiladu ymdeimlad o hunanwerth.
• Gall nofio leddfu cynnwrf a lleihau pryder, ymlacio'r corff, cynnal y corff mewn amgylchedd cymharol ddi-bwysau.
• Gall Canolfannau Hamdden hefyd fod yn fannau cyfarfod, a all helpu i leihau unigrwydd, eich cyflwyno i ffrindiau a chynnig cyfleoedd i gymdeithasu.
Mae’r pedwar awgrym yma ar gyfer unrhyw nofiwr sy’n byw gyda dementia, neu ar gyfer eich gofalwr.
1. Gallwch ofyn am ymweliad ymgyfarwyddo â'ch pwll nofio lleol lle dymunwch nofio. Bydd hyn yn caniatáu i chi, neu'ch gofalwr, ofyn yr holl gwestiynau sydd eu hangen arnoch.
2. Peidiwch â meddwl oherwydd diagnosis bod yn rhaid i chi roi'r gorau i wneud gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau neu roi cynnig ar bethau newydd.
3. Os na allwch fod yn actif oherwydd poen yn y cymalau, cymerwch ran mewn nofio - mae'n fath o weithgaredd effaith isel, felly mae'n hawdd ar eich cymalau.
4. Ceisiwch gyngor gweithiwr meddygol proffesiynol os oes gennych unrhyw bryderon.
Mae'r rhai 60+ oed a'u Gofalwyr yn mynd am ddim.
Sesiynau Cyfeillgar i Ddementia
Canolfan Hamdden Caerfyrddin
Nofio Cyfeillgar i Ddementia
Dydd Iau: 2:45yp - 3:45yp
Canolfan Hamdden Llanelli
Nofio Cyfeillgar i Ddementia
Dydd Mercher: 2:45yp - 3:45yp
Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
Nofio Cyfeillgar i Ddementia
Dydd Gwener: 2:30yp - 3:30yp
Canolfan Hamdden Llanymddyfri
Nofio Cyfeillgar i Ddementia
Dydd Mawrth: 10:30yb - 11:30yb
Dydd Iau: 10.45yb - 11:45yb
Ymuno neu Archebu
Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer pob sesiwn.
Gallwch gofrestru ar gyfer aelodaeth trwy;
- Cliciwch YMUNO
- Dewiswch Safle o'r gwymplen (dewiswch y ganolfan sydd orau gennych)
- Dewiswch Cychwyn Aelodaeth
- Dewiswch Actif 60+, a dewisiwch aelodaeth
- Cwblhewch eich manylion
- Ar ôl i chi gwblhau'r camau hyn, byddwch nawr yn derbyn e-bost cadarnhau gennym ni. Nawr byddwch chi'n gallu archebu.
I weld yr holl opsiynau aelodaeth cliciwch yma