CYNLLUN I ATGYFEIRIO CLEIFION I WNEUD YMARFER CORFF

Mae'r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERS) yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Cynllun yn targedu cleientiaid sy'n 16 oed neu'n hŷn sydd â phroblem, neu sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd cronig, gan roi mynediad iddynt at raglen ymarfer corff dan oruchwyliaeth o ansawdd uchel.

Mae'r cynllun hwn yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol yn Sir Gaerfyrddin gan gynnwys meddygon teulu, ffisiotherapyddion, dietegwyr, nyrsys practis a therapyddion galwedigaethol. Gall y gweithwyr iechyd proffesiynol gyfeirio eu cleientiaid at amrywiaeth o raglenni a gynhelir yn ein Canolfannau Hamdden yn ogystal ag allan yn y gymuned.

Mae'r rhaglenni hyn yn cynnwys;

  • Atgyfeiriad Meddyg Teulu
  • Cwrs Adfer y Galon Cam IV
  • Clefyd Anadlu Cronig
  • Atal Codymau
  • Ymarfer corff ar ôl cael Strôc
  • Ymarfer Corff mewn Cadair
  • Ymarfer Corff yn y Dŵr

Mae'r cynllun cyfeirio yn para 16 wythnos ac yn cael ei gynnal yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin, Llanelli, Dyffryn Aman a Chastellnewydd Emlyn. Darperir y cynllun hefyd mewn rhai canolfannau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin.

Beth yw ein gwaith?

  • Rydym yn cynnig asesiadau cychwynnol un i un
  • Cefnogaeth, cymorth ac anogaeth gan ein staff cymwysedig drwy gydol y cynllun
  • Yn cynllunio sesiynau ac yn eich arwain drwyddynt, gan dynnu sylw at y sesiynau a fydd fwyaf addas ar eich cyfer chi yn ystod yr 16 wythnos.
  • Trafod eich nodau tymor hir a rhoi cyfarwyddyd

Sut y gallaf ymuno?

Er mwyn ymuno â'r cynllun, y cyfan mae'n rhaid i chi ei wneud yw siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol - Meddyg Teulu, Nyrs Practis, Ffisiotherapydd. Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn gallu cadarnhau pa un a ydych yn addas ac yn bodloni'r meini prawf NERS (Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff).