Aelodaeth Corfforaethol

Mae'n ffaith bod gweithwyr iachach yn weithwyr hapusach ac yma yn Actif, mae ffitrwydd a llesiant eich gweithwyr yn bwysig i ni.

Partneriaid Corfforaethol

Edrychwch ar y rhestr islaw i ddarganfod a yw eich busnes eisoes yn un o'n partneriaid corfforaethol. Os yw, rydych yn gymwys i ymuno ag un o'n pecynnau aelodaeth corfforaethol.

Ymunwch ar-lein a dewch â phrawf o'ch cyflogaeth ar eich ymweliad cyntaf er mwyn i ni gadarnhau'r aelodaeth gorfforaethol.

  • Animal Health
  • Antur Cymru
  • Armed Forces
  • Arriva Trains
  • Birdshill Rural Renewables
  • Bluestone National Park Resort
  • BTG plc
  • Carmarthenshire County Council
  • Castell Howell Foods Ltd
  • Coleg Sir Gar
  • CWM Environmental Ltd
  • Delta Wellbeing
  • DVLA
  • Dunbia
  • Dwr Cymru Welsh Water
  • Dyfed Powys Police
  • Elidyr Communities Trust
  • Family Support Wales
  • Fresenius Medical Care
  • Furnace House Surgery
  • Pobl / Group Gwalia Cyf
  • Hafal
  • HASSRA Wales – West Wales Department of Work and Pensions staff
  • Health & Safety Executive (Carmarthen)
  • Her Majesty’s Courts & Tribunal Service (HMCTS)
  • HM Revenue & Customs – South Wales Group Valuation Office Agency (VOA)
  • HM Revenue & Customs – VAT Offices
  • HM Revenue & Customs – Inland Revenue (Tax) Offices
  • Hywel Dda health board
  • Mid & West Wales Fire & Rescue Service
  • Marelli Automotive Systems UK Ltd
  • Morrison’s (Llanelli)
  • Natural Resources Wales
  • PHS Group
  • TATA
  • TK Maxx (Carmarthen Branch)
  • Welsh Assembly Government
  • Wales & West Utilities Ltd

Dod yn bartner corfforaethol

Rhowch fynediad diderfyn i'ch staff i'n campfeydd, pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd am lai na 70c y dydd.

Drwy fanteisio ar un o'n pecynnau aelodaeth corfforaethol, gall eich gweithwyr a'ch busnes elwa ar nifer o fuddion gan gynnwys;

  • Cynnydd o ran ffitrwydd a morâl
  • Gweithlu hapusach
  • Gwelliant o ran lefelau canolbwyntio
  • Lleihau lefelau straen
  • Cynnydd o ran cynhyrchiant 

Oes gennych ddiddordeb mewn Aelodaeth Gorfforaethol?

Mae ein pecynnau aelodaeth corfforaethol yn cynnig nifer fawr o fuddion i'ch gweithwyr gan gynnwys; 

  • Mynediad hollgynhwysol i bob un o'r 7 Canolfan Hamdden a Chwaraeon Actif
  • Aelodaeth Blatinwm - mynediad diderfyn i'r gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd a nofio (ac eithrio Dosbarthiadau Synrgy)
  • Aelodaeth Efydd - mynediad diderfyn i bob un o'n 4 pwll nofio
  • Sesiwn Sefydlu am ddim
  • Adolygiad o'r rhaglen gyda hyfforddwr
  • Mynediad at dros 100 o ddosbarthiadau ffitrwydd bob wythnos
  • Archebu dosbarthiadau ar-lein, bythefnos ymlaen llaw
  • Mynediad diderfyn i bob un o'n 4 pwll nofio
  • Mynediad i'r Ystafelloedd Iechyd (Caerfyrddin a Llanymddyfri a 18 oed ac uwch yn unig)
  • Gostyngiad o hyd at 40% ar weithgareddau a hyrwyddir
  • Defnyddio'r loceri am ddim
  • Wi-Fi am ddim

Pwy sy'n gymwys?

Mae gofyn bod o leiaf 5 gweithiwr o'ch sefydliad, busnes neu glwb yn cofrestru ar gyfer un o'n pecynnau aelodaeth;

Platinwm Corfforaethol (defnydd di-derfyn o'n campfeydd, pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd* ar draws ein canolfannau)

Efydd Corfforaethol (nofio yn unig ar draws i gyd o'n pyllau nofio)

 * mae rhai dosbarthiadau wedi'u heithrio

Hoffech chi gael gwybod rhagor? 

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn un o'n partneriaid corfforaethol ac eisiau cofrestru, cysylltwch a ni am fanylion;