Platfform Gwirfoddoli Actif

Nod system gwirfoddoli Actif yw i hwyluso cyfleoedd gwirfoddoli ledled Sir Gaerfyrddin

System Gwirfoddoli Actif

Erioed wedi ystyried gwirfoddoli? Wedi’i weinyddu gan Chwaraeon a Hamdden Actif, nod system gwirfoddoli Actif yw i hwyluso cyfleoedd gwirfoddoli ledled Sir Gaerfyrddin drwy gysylltu pobl sydd eisiau gwirfoddoli â sefydliadau sydd eisiau gwirfoddolwyr ym maes chwaraeon a hamdden. Cliciwch YMA i ddarganfod mwy.

Ein nod yw helpu cymunedau lleol drwy ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl roi o’u hamser, eu hegni a’u sgiliau drwy wirfoddoli a’n helpu yn ein cenhadaeth i wella llesiant drwy ysbrydoli ein poblogaeth i fod yn actif am oes.

Pam gwirfoddoli?

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’ch cymuned tra hefyd yn eich helpu i chi i gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd, ennill profiadau, a gwella eich lles. Mae pob math o bobl yn gwirfoddoli, felly os ydych chi’n wirfoddolwr profiadol neu eisiau rhoi cynnig arni am y tro cyntaf rydyn ni’n siwr o gael rhywbeth i chi!

Sut i gwirfoddoli?

Mae cymryd rhan yn hawdd. Yn syml, cliciwch yma a chwiliwch y rhestr o gyfleoedd, dewch o hyd i rywbeth o ddiddordeb, a chofrestrwch trwy glicio botwm! Efallai y bydd rhai cyfleoedd yn gofyn i chi ychwanegu ychydig mwy o fanylion, ond mae rhai yn caniatáu i chi gymryd rhan yn syth, felly beth am gymryd cip a chofrestru heddiw?