Synrgy 360

Mae cyfarpar ffitrwydd Synrgy 360 yn cynnig cyfleoedd di-ri i ymarfer yn glyfrach, yn well ac yn fwy effeithiol.

Mae'n wych os ydych am roi cynnig ar rywbeth newydd neu ychwanegu ychydig o amrywiaeth at eich rhaglen hyfforddi.  Bydd Synrgy 360 yn eich helpu chi i gyrraedd eich targedau ffitrwydd, a gwneud hynny'n gyflymach!

Mae Synrgy 360 yn ffrâm hyfforddi gynhwysfawr sy'n cyfuno ymarferion y corff cyfan ac ymarferion dynamig gan ddefnyddio atodiadau ymarfer arloesol megis y TRX, gorsaf ceblau ViPR, rhaffau trymion, bagiau dyrnu, cyfarpar plyometrig a llawer mwy.

Mae pob sesiwn Synrgy yn wahanol ac yn defnyddio cymysgedd o ymarferion ar y ffrâm ac oddi arni.

Mae Synrgy ar gael yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin yn unig.

Mae'n cynnwys;

  • Ymarfer ar gyfer y corff cyfan
  • ymarferion dwysedd uchel, byr, cyflym a deinamig
  • mae pob sesiwn yn unigryw ac yn cynnwys cyfuniadau gwahanol o ymarferion.
  • ymarfer ar gyflymder sy'n addas i chi a herio eich hun

Addas ar gyfer;

  • Pob oedran
  • Pob lefel ffitrwydd - gellir addasu'r holl ymarferion er mwyn herio eich lefel ffitrwydd eich hun.

Dewisiadau aelodaeth

Rydym yn cynnig dewis o becynnau aelodaeth Synrgy.

Aelodaeth Synrgy yn unig - £23.00

Aelodaeth Synrgy yn unig (Iau) - £14.80

 

Ydych chi'n glwb chwaraeon?

Mae dosbarthiadau Synrgy 360 yn wych i'ch tîm hyfforddi yn ystod y tymor tawel neu cyn i'r tymor ddechrau er mwyn helpu i gadw a gwella cryfder a chardio aelodau eich tîm.

Drwy logi'r ystafell Ffitrwydd Synrgy 360, gall eich tîm fwynhau sesiynau sy'n cynnig rhywbeth gwahanol i'ch sesiynau hyfforddi arferol.

Y gost: £50 yr awr (sy'n cynnwys Hyfforddwr Actif i gynnal y sesiwn)