Mae Actif Unrhyw le yn gludadwy sy'n golygu y gallwch chi gymryd rhan yn unrhyw un o'n dosbarthiadau UNRHYW LE, dim ond trwy ddefnyddio'ch ffôn, llechen neu liniadur.
SUT I FEWNGOFNODI I ACTIF UNRHYW LE
Ar ôl ichi gofrestru ar gyfer aelodaeth Actif Unrhyw Le a bod gennych eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair yn gyfleus, byddwch yn barod i gyrchu'r platfform.
Cliciwch ar y botwm isod. Nodwch eich cyfeiriad e-bost a nodwch eich cyfrinair yn y blwch 'Cyfrinair' (mae'r cyfrinair hwn yr un peth â'r un y defnyddioch i archebu eich dosbarthiadau neu eich sesiwn nofio ar-lein/ar yr ap)

ARCHEBU LLE A RHEOLI EICH ARCHEBION
Ar ôl mewngofnodi rydych yn gallu archebu lle neu reoli'r archebion rydych eisoes wedi'u gwneud.
