Pasbort y Dwr

Mae'r holl blant sy'n ymuno â'r rhaglen Dysgu Nofio bellach yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar y Cynllun Pasbort y Dŵr.

Mae Pasbort y Dŵr yn ganllaw dysgu rhyngweithiol ar-lein a ddatblygwyd gan Nofio Cymru.  Mae'n dysgu plant gwerth diogelwch dŵr mewn modd hwyliog.

Mae elfen ryngweithiol y rhaglen yn galluogi rhieni i fewngofnodi ac edrych i weld cynnydd eu plentyn.

Mae Pasbort y Dŵr yn cynnig nifer o gemau a chwisiau sy'n cael eu datgloi wrth i’r plentyn wneud cynnydd yn ei wersi.

Mae dysgu am ddiogelwch yn y dŵr yn sgìl bywyd allweddol ac mae Pasbort y Dŵr yn galluogi plant i ddod yn fwy ymwybodol o reolau'r pwll a Chôd Diogelwch Dŵr.