AMSER I DDATHLU! Mae gennym amrywiaeth o bartion pen-blwydd i sicrhau bod gan eich plentyn lawer o hwyl wrth ddathlu eu diwrnod arbennig gyda ffrindiau.
Dathlwch ben-blwydd eich plentyn mewn steil gydag un o'n pecynnau pen-blwydd hwyliog.
PARTION PWLL NOFIO
(Rhaid archebu lle i o leiaf 15 o blant)
Ar gael ym Mhwll Nofio Dyffryn Aman, Caerfyrddin, Llanelli a Llanymddyfri.
Mae pob canolfan yn cynnig gwahanol opsiynau megis fflôt, ynys, sleidiau a byrddau deifio.
Cynhelir partïon pwll ar ddiwrnodau ac amserau ymroeddedig. Ewch i un on pyllau nofio agosaf am fanylion.

PARTION YN Y NEUADD CHWARAEON
(Rhaid archebu lle i o leiaf 12 o blant)
Mwynhewch un o'n partïon chwaraeon yn y neuadd chwaraeon dan arweiniad un o’n hyfforddwyr profiadol.
Mae'r chwaraeon yn cynnwys pêl-droed, pêl-rwyd, beicio, hoci neu racedi. Dewiswch un gamp ar gyfer y parti cyfan neu rannwch y neuadd i gael cymysgedd o gampau.

CANOLFAN CHWARAE
-
(Rhaid archebu lle i o leiaf 12 o blant)
Dim ond yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin. Mae'r ganolfan chwarae'n cynnwys rig antur tair haen lle gall plant archwilio nodweddion hwyliog gan gynnwys twneli, cerrig camu, pontydd rhaff, sleidiau a llawer mwy!
Wrth archebu parti yn y ganolfan chwarae ni fydd gennych ddefnydd unigryw.

BETH MAE'R PARTION YN CYNNWYS?
- 1 awr o weithgaredd o'ch dewis
- Trefnydd penodol ar gyfer eich parti ac ar y diwrnod
- Dewis o fwyd parti*
- Hufan Ia*
- Sgwash diderfyn*
- Ardal benodol ar gyfer bwyd*
* ddim ar gael yng nghanolfannau hamdden Dyffryn Aman, Llanymddyfri, Sancler a Castell Newydd Emlyn
PRISIAU
CANOLFANNAU HAMDDEN CAERFYRDDIN A LLANELLI
£10.80 y plentyn (cynnwys 1 awr o weithgaredd a 30 munud ar gyfer bwyd).
Bwyd wedi'i gynnwys.
Os yw partïon yn fwy na isafswm nifer y plant, bydd y plentyn sy’n cael ei ben-blwydd yn cael lle AM DDIM!
Mae angen talu yn llawn ar adeg archebu
CANOLFANNAU HAMDDEN DYFFRYN AMAN, LLANYMDDYFRI, SANCLER A CASTELL NEWYDD EMLYN
£6.80 y plentyn (yn cynnwys 1 awr o weithgaredd) Nid yw'n cynnwys bwyd
Os yw partïon yn fwy na isafswm nifer y plant, bydd y plentyn sy’n cael ei ben-blwydd yn cael lle AM DDIM!
Mae angen talu yn llawn ar adeg archebu
DEWISIADAU YCHWANEGOL
Gallwch ychwanegu hanner awr - £1.80 y plentyn
(dim ond ar gael ar gyfer partïon yn y Neuadd Chwaraeon neu y Canolfan Chwarae, dim yn cynnwys partïon yn y pwll)
I ARCHEBU PARTI
Cwblhewch y ffurflen ymholiad isod a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth ac argaeledd.