Gall plant 11-13 oed fwynhau defnydd llawn o'n hystafelloedd ffitrwydd (rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn neu ofalwr)
Rhowch eich plant ar y daith i lesiant a dangos iddynt fuddion cadw'n heini drwy eu cyflwyno i un o'n campfeydd. Mae cynifer o fuddion, gan gynnwys;
- cadw eich pwysau'n iach,
- teimlo'n fwy egnïol, a
- hybu lefelau ffitrwydd.
Mae gan ein campfeydd offer Life Fitness sydd â systemau teledu ac adloniant integredig.
Mae'n rhaid cael cyflwyniad i'r gampfa cyn defnyddio'r offer.
Gweithgareddau eraill
Rydym hefyd yn cynnig dosbarthiadau ffitrwydd ar gyfer plant 11-13 oed megis Zumba, Jungle Body Konga a dosbarthiadau Synrgy (dosbarthiadau penodol)
Os yw eich plentyn yn ei arddegau yn mwynhau gweithgareddau dŵr, mae digonedd o weithgareddau yn cael eu cynnal yn ein pyllau nofio hefyd, o wersi nofio i ddosbarthiadau achubwr bywyd oedran iau a pholo dŵr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.