Yn ein barn ni, dylai ymarfer corff fod yn hwyliog, yn gymhellol ac yn bleserus, er mwyn i chi ddychwelyd bob tro. Rydym yn cynnal dros 100 o ddosbarthiadau ffitrwydd bob wythnos, felly pa un a ydych chi am chwysu drwy ymarfer yn galed mewn dosbarth chwilbedlo neu am ymlacio mewn dosbarth ioga, mae gennym rywbeth i bawb.
Lawrlwythwch ein hamserlenni ffitrwydd yma

Rhestr o'r holl Ddosbarthiadau Ffitrwydd sydd ar gael yn Actif;
Aqua Ffit - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Dosbarth ymarfer corff aerobig hwyliog yn y dŵr i wella'ch hyblygrwydd a thynhau eich corff gydag effaith isel ar eich cymalau.
Bocs ffit - Dwysedd Uchel
Math effeithiol o draws-ymarfer. Mae'r dosbarth yn defnyddio dulliau hyfforddiant bocsio i dynhau ac i gryfhau rhannau uchaf ac isaf y corff.
Boliau, Coesau a phenolau - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Mae'r ymarfer hwn yn defnyddio ystod o symudiadau ac ymarferion penodol sydd wedi'u llunio ar gyfer rhan isaf y corff.
Boot Camp - Dwysedd Uchel
Math effeithiol o ymarfer corff sy'n cyfuno ymarferion pwysau corff, hyfforddiant a seibiannau â hyfforddiant cryfder, wedi'i gynllunio mewn ffordd sy'n gwthio'r cyfranogwyr yn galetach nag y byddent yn gwthio'u hunain.
Bownsio i'r Bît - Dwysedd Uchel
Rhaglen ymarfer gyflawn ar drampolinau bach sy'n cynnig ymarfer cardiofasgwlaidd wedi'i goreograffu i gymysgedd eclectig o gerddoriaeth ar draws y degawdau.
Canol y Corff - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Nod y dosbarth hwn yw gwella cryfder a hyblygrwydd, a datblygu rheolaeth dros symudiadau, gan ddefnyddio canol y corff.
Chwilbedlo - Dwysedd Uchel
Sesiwn ddwys iawn ar feic sefydlog a fydd yn sicr o gael eich calon i guro'n gynt wrth gryfhau a thynhau rhan isaf eich corff a llosgi calorïau! Gall unigolion addasu dwysedd eu hymarfer yn ystod y sesiwn yn unol â'u gallu.
Chwilbedlo i'r Ifanc - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Sesiwn feicio dan do hwyl a heriol ar gyfer ein haelodau Actif Iau. Rhaid i rieni roi eu caniatâd os yw'r plentyn o dan 14 oed a rhaid i bob defnyddiwr fod yn 4 troedfedd 11 modfedd o daldra o leiaf.
Chwilbedlo Ysgafn - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Mae'r dosbarth chwilbedlo ysgafn hwn yn berffaith ar gyfer y rheiny sydd â lefelau ffitrwydd is, beicwyr chwilbedlo newydd neu'r rheiny sy'n gwella o afiechyd neu anaf.
Coach by Colour - Dwysedd Uchel
Bydd y dosbarthiadau hyn yn gwella eich profiad beicio dan do gan ddefnyddio 5 parth hyfforddi lliw i sicrhau eich bod yn ymarfer ar y dwysedd cywir ym mhob ymarfer*. Y cyfan sydd angen ei wneud yw cyfateb y lliw sydd ar eich beic chi i'r lliw sydd ar feic yr hyfforddwr - mae'n syml, ond nid yw'n hawdd bob amser!
Cylchoedd ymarfer - Dwysedd Uchel
Dosbarth llawn her a hwyl sy'n cynnig ffordd gyflym o gadw'r galon a'r holl gyhyrau'n iach a heini.
Cylchoedd Ymarfer Bywyd - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Mae'n canolbwyntio ar ymarferion cardiofasgwlaidd h.y. cerdded, beicio, rhwyfo, a stepio, ar ffurf cylch ymarfer gan wneud ymarferion rhyngddynt i gryfhau ac i wella ffurf y corff. Mae'n ddelfrydol i'r rheiny sy'n cwblhau'r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol ac sydd yng “Ngrŵp Iechyd” LF connect.
Cylchoedd Ymarfer i Deuluoedd - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Dosbarth ar gyfer teuluoedd â phlant 5-13 oed. Cyfle i fwynhau dod yn fwy heini gyda'ch gilydd. Mae digonedd o gemau ffitrwydd ac ymarferion cylch ichi gael hwyl heb ichi sylweddoli eich bod yn gwella eich ffitrwydd! Cyfle i wella ffitrwydd, cryfder a stamina yn ein dosbarthiadau cylchoedd ymarfer i deuluoedd.
Dawns Ffit - Dwysedd Uchel
Bydd y dosbarth hwn, sydd wedi'i goreograffu, yn cynnwys symudiadau hawdd eu dilyn er mwyn gwella cydsymud a ffitrwydd cardiofasgwlaidd.
Dawnsio Aur - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Mae'r dosbarth hwn wedi'i gynllunio ar gyfer oedolion hŷn egnïol sy'n edrych am ddosbarth dawnsio wedi'i addasu sy'n ail-greu'r symudiadau gwreiddiol rydych yn dwlu arnynt ond sy'n llai egnïol.
Ffit am Oes - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Dosbarth cylch ymarfer sy'n canolbwyntio ar gynnal/ennill ffitrwydd cardiofasgwlaidd, symudedd a hyblygrwydd gan roi sylw i'r prif gymalau.
HIIT Pwysau tegell (30 munud) - Dwysedd Uchel
Mae'r dosbarth hwn yn cynnig elfennau hanfodol o hyfforddiant cryfder craidd ac ymarfer corff cardiofasgwlaidd drwy ddefnyddio pwysau tegell. Byddwch chi'n gweld gwahaniaeth ar ôl ychydig o sesiynau'n unig.
ICG Connect - Dwysedd Uchel
Ym mhob dosbarth, mae cyfranogwyr yn beicio gyda'i gilydd ac yn erbyn ei gilydd i gyrraedd targed y grŵp, ennill brwydrau tîm a llwyddo i gael eu hamserau personol gorau.
Insanity - Dwysedd Uchel
Hyfforddiant pwysau corff dwysedd uchel y gellir ei addasu ar gyfer pobl o bob gallu.
Ioga - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Dosbarth ar gyfer ymestyn a chryfhau eich corff, yn ogystal â gwella eich cydbwysedd a’ch cydsymud. Gellir addasu symudiadau ioga fel eu bod yn addas ar gyfer eich lefel ffitrwydd a’ch hyblygrwydd.
Iogalaties - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Gwella hyblygrwydd a chryfder drwy gymysgu ioga a philates. Addas ar gyfer pobl o bob gallu a lefel ffitrwydd.
Jungle body Konga - Dwysedd Uchel
Mae Jungle body Konga® yn hawdd ei ddilyn ac yn gyfuniad dwys iawn o focsio, cardio, dawnsio a siapio i'r gerddoriaeth orau o bob degawd. Mae Konga® yn marfer caled a gwyllt sydd wedi'i gynllunio i siapio, cerflunio ac ailddiffinio eich corff.
Kettlercise Combat MX - Dwysedd Uchel
Mae'r dosbarth hwn i gerddoriaeth sydd wedi'i goreograffu yn gymysgedd egnïol iawn o ymarferion pwysau tegell a symudiadau deinamig sydd wedi eu hysbrydoli gan grefft ymladd.
MyRide Byw - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Dilynwch eich hyfforddwr mewn sesiwn feicio dan do sy'n hawdd ei dilyn ac yn gynhwysfawr ar draws ffyrdd mwyaf heriol a thrawiadol y byd gan gynnwys coedwigoedd, mynyddoedd a llosgfynyddoedd hyd yn oed. Yn y broses, byddwch yn llosgi calorïau ac yn cael hwyl.
PBF+ - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Ymarfer grŵp sy'n targedu cydbwysedd, cryfder a ffitrwydd gweithredol.
Prawf Chwilbedlo FTP - Dwysedd Uchel
Er mwyn personoli a manteisio i'r eithaf ar eich profiad yn y dosbarthiadau hyn rydym yn argymell eich bod yn cwblhau prawf chwilbedlo FTP. Bydd hyn yn rhoi rhif mwy cywir a fydd yn cael ei fewnbynnu ar ddechrau'r dosbarth. Gellir archebu lle ar gyfer y prawf hwn yn y dderbynfa.
Pwysau tegell - Dwysedd Uchel
Mae'r dosbarth hwn yn cynnig elfennau hanfodol o hyfforddiant cryfder craidd ac ymarfer corff cardiofasgwlaidd drwy ddefnyddio pwysau tegell. Byddwch chi'n gweld gwahaniaeth ar ôl ychydig o sesiynau'n unig.
Siapio'r Corff - Dwysedd Uchel
Dosbarth ymarferion ysgafn sy'n canolbwyntio ar gryfder ac sy'n defnyddio cymysgedd o farbwysau, dymbelau a phwysau eich corff i dynhau, cryfhau a lleihau modfeddi.
Siapio'r Corff gyda barbwysau - Dwysedd Uchel
Bydd y dosbarth hwn yn tynhau, yn siapio ac yn cryfhau eich corff i gyd, yn gyflym! Mae'r dosbarth hwn yn herio pob un o'ch prif grwpiau o gyhyrau wrth ichi gyrcydu, gwthio, codi a chyrlio.
Synergy HIIT - Dwysedd Uchel
Mae'r dosbarth hwn wedi'i gynllunio i drawsnewid eich corff drwy ddatblygu cryfder a dygnwch ym mhob un o brif grwpiau'r cyhyrau.
Synergy i Ddechreuwyr - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Nod y dosbarth rhagarweiniol hwn yw hyfforddi a datblygu techneg o ran gwneud yr amrywiol ymarferion Synergy. Mae'n berffaith ar gyfer dechreuwyr ac oedolion hŷn.
Synergy Siapio - Dwysedd Uchel
Mae'r dosbarth hwn wedi'i gynllunio i drawsnewid eich corff drwy ddatblygu cryfder a dygnwch ym mhob un o brif grwpiau'r cyhyrau.
Synergy Perfformio - Dwysedd Uchel
Dosbarth 30 munud dwys iawn.
Synergy Super 45 - Dwysedd Uchel
Ymarfer dwys iawn am 45 munud ar gyfer y corff cyfan a fydd yn herio hyd yn oed yr unigolion mwyaf heini. Bydd ymarfer ar y dwysedd eithafol hwn yn helpu i losgi hyd at 1000 o galorïau ym mhob dosbarth.
Synergy i'r Ifanc - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Sesiwn Synergy llawn hwyl ar gyfer pobl ifanc 14-17 oed a fydd yn dysgu pob un yn ei arddegau am ffitrwydd gweithredol.
Tabata HIIT (30 munud) - Dwysedd Uchel
Hyfforddiant egniol iawn â seibiannau (HIIT) yw Tabata sy'n para am bedwar munud. Mantais y math hwn o hyfforddiant yw ei fod yn llosgi braster mewn amser byr!
Ymarfer Caled i'r Corff cyfan - Dwysedd Uchel
Ymarfer barbwysau egniol sydd wedi'i goreograffu sy'n defnyddio pwysau ysgafnach a llawer o ailadrodd i edrych yn gyhyrog ym mhob rhan o'r corff a gwella gallu eich corff i losgi caloriau.
Ymarfer i Gerddoriaeth - Dwysedd Uchel
Cyfres o arferion sydd wedi'u coreograffu i gyfeiliant cerddoriaeth ardderchog gyda symudiadau effeithiol iawn.
Ymarfer i Gerddoriaeth Aur - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Cyfres o arferion wedi'u coreograffu yw hwn i gyfeiliant cerddoriaeth ardderchog gyda symudiadau ysgafn. Mae'r sesiwn yn addas ar gyfer pobl o bob gallu ac mae symudiadau eraill yn cael eu cynnig drwy gydol y sesiwn.
Zumba Aur - Dwysedd Ysgafn/Cymedrol
Dosbarth ffitrwydd-dawnsio sy'n hawdd ei ddilyn, yn wahanol ac yn bennaf, yn fywiog! Mae dosbarthiadau Zumba Gold® yn cynnig symudiadau ysgafn sydd wedi'u haddasu ar gyfer oedolion hŷn egnïol.
Zumba - Dwysedd Uchel
Zumba: Y diweddaraf mewn dawnsio Lladinaidd, gan ddefnyddio cyfuniad o symudiadau Meringue, Cumbia, Salsa, a Samba i gael eich calon i guro a'ch traed yn tapio.