Mae gan ein Canolfan Chwarae Aml-lefel ardaloedd chwarae meddal pwrpasol ar gyfer plant 3 oed ac iau, gyda rhwydi a sleidiau ar gyfer plant dros 4 oed.
Dewch â'ch rhai bach i fwynhau ein Canolfan Chwarae Actif yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin nawr!
Mae gennym hefyd gaffi pwrpasol lle gallwch gael coffi a bisgedi. Mae yna rywbeth at ddant pawb.
Sylwch mai dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ym mhob sesiwn ac argymhellir eich bod yn archebu ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Ar gyfer pwy mae hwn?
Addas i blant dan 148cm gydag ardal bwrpasol ar gyfer plant dan 3 oed.
Beth yw hyd y sesiwn?
Mae pob sesiwn yn 1 awr 30 munud.
Ble a phryd?
Efallai bod sesiwn ychwanegol ar gael, edrychwch ar yr ap i gael rhagor o wybodaeth.
Dydd Llun - Gwener
9:30
11:15
13:00
14:45
16:30
Dydd Sadwrn
09:30*
11:30*
13:30*
15:30*
* session available depending on other bookings at the facility such as birthday parties.
Dydd Sul
09:30*
11:30*
13:30*
15:30*
* session available depending on other bookings at the facility such as birthday parties.
Faint?
£4.00 y plentyn
Sut y gallaf archebu lle?
Mae archebu pob plentyn yn hanfodol. Archebwch y ganolfan chwarae trwy ddewis sesiwn a chlicio archebu.
I ychwanegu mwy nag un plentyn, dewiswch 'Ychwanegu mwy o bobl'.
Drwy'r ap Actif; ar-lein ac yn bersonol. Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol a chofiwch fewngofnodi yn y dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd y ganolfan.
