Amserlenni

Gweithgareddau a Sesiynau Amserlenni

Cliciwch ar y gwymplen isod i ddewis eich Canolfan Hamdden Actif agosaf.

Roedd yr amserlen a ddangosir isod yn gywir ar adeg cyhoeddi, i gael rhestr lawn a chyfredol o'r sesiynau sydd ar gael, lawrlwythwch yr ap neu ewch i archebu arlein.

Edrych am amserlenni diweddaraf y Gampfa, Pwll Nofio a Dosbarthiadau Ffitrwydd ar gyfer pob canolfan unigol? Lawrlwythwch Ap Chwaraeon a Hamdden Actif o'r Siop Apiau neu Google Play. Dewiswch eich canolfan ddewisol/lleol, cliciwch ar y botwm 'Archebu Lle' a chliciwch ar y botwm cyfleuster/gweithgaredd perthnasol.

**Cynghorwn eich bod yn archebu ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau i osgoi unrhyw siom**

 

Dim yn troi lan neu ffi canslo hwyr

Rydyn ni'n gwybod bod pethau'n codi ac weithiau mae'n rhaid i chi ganslo archeb rydych chi wedi'i wneud. Er mwyn osgoi tâl o £3 am ganslo'n hwyr, canslwch eich archeb o leiaf 3 awr cyn i'ch dosbarth neu sesiwn ddechrau. Os byddwch yn canslo ar ol hynny, bydd y tâl yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif. Rhaid i chi dalu'r tâl hwn cyn gwneud unrhyw archebion yn y dyfodol. Gallwch ei dalu drwy adran 'Fy Masged' ar eich cyfrif drwy glicio yma neu drwy Ap Actif drwy ddewis y botwm 'Fy Masged' a dilyn y camau talu.

Os na fyddwch yn troi lan ar gyfer eich dosbarth fyddwch yn gorfod talu £3. Mae'n bwysig eich bod yn 'mewn-gofnodi' pan fyddwch yn cyrraedd y ganolfan, gallwch wneud hyn trwy sganio'ch botwm RFID i fynd drwy'r gatiau mynediad, defnyddio ciosg yn y dderbynfa, cysylltu â hyfforddwr y dosbarth neu ymweld â'r dderbynfa.

 

Newidiadau i ddosbarthiadau dros wyliau'r Pasg

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

  • Nid yw dosbarth Dawns Aur ar gael ar 2 a 3 Ebrill, bydd y dosbarthiadau hyn yn ôl ac yn rhedeg fel arfer o 9 Ebrill ymlaen.

  • Dosbarth Aerobeg ychwanegol wedi'i ychwanegu ddydd Mawrth 2 Ebrill am 10.45am - archebwch ar-lein neu ar yr ap