Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri Gwybodaeth bellach

Mae Eisteddfod yr Urdd, un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop sy'n dathlu llenyddiaeth, cerddoriaeth a chelfyddydau perfformio ac a drefnir gan Urdd Gobaith Cymru, yn dod i Lanymddyfri yn 2023 yn ystod wythnos y Sulgwyn ddiwedd mis Mai.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Eisteddfod yr Urdd gan gynnwys ble i gael baneri’r Urdd i addurno’ch tŷ neu fusnes, lleoedd i aros a bwyta yn Llanymddyfri a mwy.