Rydym yn gyffrous iawn i gyflwyno sesiynau padlfyrddio yma yn Actif – mae’n un o’r chwaraeon dŵr sy’n tyfu gyflymaf.
Dewch i roi cynnig ar un o’r chwaraeon dŵr sy’n tyfu gyflymaf yn y byd yma yn Sir Gaerfyrddin. Mae padlfyrddio wrth sefyll yn weithgaredd mor wych a hygyrch i bawb waeth beth fo'u hoedran, maint neu allu.
Mae’n wych ein bod yn gallu ychwanegu rhywbeth hollol wahanol i’n hamserlen oedolion Actif wythnosol a rhoi cyfle i drigolion Sir Gaerfyrddin roi cynnig ar wahanol weithgareddau ar garreg eu drws.
Yn anad dim, mae gennym hyfforddwr wrth law bob wythnos i helpu i roi'r holl gyngor ac awgrymiadau sydd eu hangen arnoch. Rydyn ni’n un o’r ychydig leoedd y gallwch chi ddod draw a rhoi cynnig ar badlfyrddio lle mae hyfforddwr wrth law i’ch arwain bob cam o’r ffordd.
Rydym yn cyflwyno’r sesiynau yn wythnosol yn Noc y Gogledd Llanelli. Nid oes angen unrhyw offer gan y byddwn yn cyflenwi offer padlo bwrdd, siacedi achub a siwtiau gwlyb. Rhaid i gyfranogwyr fod dros 18 oed i gymryd rhan yn y sesiynau hyn; a fyddech cystal â chyrraedd 15 munud cyn amser dechrau'r sesiwn i fynd i'r siwt wlyb.
Bwrdd Padlo - Dyddiadau a Lleoliad
Sesiwn Plant a Teuluoedd - Doc Y Gogledd, Llanelli (Dydd Sadwrn)
PRYD: Sesiwn bob Dydd Sadwrn
BLE: Doc Y Gogledd, Llanelli
AMSER: 10:00yb - 11:00yb
PRIS: £6.90
Mae'r gweithgaredd yma ar gyfer plant 8-17 oed. Bydd angen plant 8-12 oed ei oruchwylio gan oedolyn a bod yn hyderus yn y dŵr.
Nodwch: Mae angen archebu lle plentyn ac oedolyn ar wahân, felly bydd angen i'r oedolyn sy'n mynynychu dalu hefyd (dim rhannu).
Gall 13+ oed fynychu ar ei ben ei hun. Archebu ymlaen llaw yn hanfodol.
Sesiwn 18+ - Doc Y Gogledd, Llanelli (Dydd Sadwrn)
PRYD: Sesiwn bob Dydd Sadwrn
BLE: Doc Y Gogledd, Llanelli
AMSER: 11:30am - 12:30pm (Dydd Sadwrn)
PRIS: £6.90
Gweithgaredd 18+ yn unig. Archebu ymlaen llaw yn hanfodol.
Sesiwn 60+ - Doc Y Gogledd, Llanelli (Dydd Sadwrn)
PRYD: Sesiwn bob Dydd Sadwrn
BLE: Doc Y Gogledd, Llanelli
AMSER: 1:00pm - 2:00pm (Dydd Sadwrn)
PRIS: £6.90
Archebu ymlaen llaw yn hanfodol.
Sut i archebu sesiynau yn y gymuned?
Sut i archebu ar yr ap?
Ar gyfer pob rhaglen gymunedol fel chwaraeon cerdded, yn ôl ar eich beic, cerdded nordig, a mwy gallwch hefyd archebu'r rhain yn hawdd trwy ein ap neu ar-lein, dyma sut,
Ar yr ap
- Agorwch yr app
- Cliciwch ar y botwm dewislen (dde uchaf, 3 llinell lorweddol)
- Dewiswch Fy Nghlybiau
- Gwiriwch i weld a yw 'Actif Cymunedol' wedi'i restru yno, os na chliciwch ar y botwm + (dde uchaf)
- Dewiswch 'Actif Cymunedol' o'r rhestr
- Bydd sgrin ap cymunedol Actif nawr yn agor o'ch blaen a byddwch yn gallu gweld 'Archebwch Sesiwn Oedolion Actif' a 3 botwm oddi tano ar gyfer pob un o'r ardaloedd - Amanford, Caerfyrddin, a Llanelli.
- Dewiswch yr ardal sydd orau gennych
- Yna byddwch chi'n gallu gweld pa sesiynau sy'n cael eu cynnal
Dewiswch sesiwn a chlicio ARCHEBU - Os nad ydych wedi mewngofnodi, bydd yn eich annog i nodi'ch cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair cyn cwblhau'r archeb.
Sut i archebu ar-lein?
Ar y wefan
- Cliciwch ar ARCHEBU (brig y dudalen os ydych chi'n defnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith, neu bydd angen i chi glicio ar y botwm dewislen ar y dde uchaf sydd â 3 llinell lorweddol ac fe welwch ARCHEBU ar waelod ein sgrin)
- Rhowch eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair
- Ar gyfer sesiynau Gorllewin neu Caerfyrddin a'r ardal gyfagos, dewiswch ganolfan Hamdden Caerfyrddin o'r gwymplen
- Ar gyfer sesiynau Dwyrain neu Amanford a'r ardal gyfagos, dewiswch Ganolfan Hamdden Ammanford o'r gwymplen
- Ar gyfer sesiynau De neu Llanelli a'r ardal gyfagos, dewiswch Ganolfan Hamdden Llanelli o'r gwymplen
- Ar ôl i chi ddod o hyd i'ch hoff sesiwn, cliciwch ARCHEBU