Nid yw'r rhaglen Llysgennad Cymunedol yn costio dim i'r rhai sy'n cymryd rhan a'i nod yw grymuso pobl leol i arwain ar gyfleoedd chwaraeon i helpu i adeiladu cymunedau cryfach yn Sir Gaerfyrddin.
Beth fydda i'n ei wneud?
Mae Llysgenhadon Cymunedol yn rôl newydd sbon a byddant yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Cymunedau Actif, yn enwedig y Swyddogion Oedolion Actif. Maent yn awyddus i ehangu cyrhaeddiad eu gweithgareddau cyfredol i gefnogi a galluogi cymunedau i ddod yn fwy egnïol, yn amlach. Prif dasg y rôl hon yw ymgysylltu â chymunedau a, thrwy eich diddordebau, galluogi unigolion i ymuno â chi yn eich gweithgareddau trwy
- Arwain neu gydlynu gweithgareddau a sesiynau yn y gymuned er mwyn i eraill fod yn egnïol
- Helpu eraill i wella iechyd a lles trwy weithgaredd corfforol
- Bod yn ddylanwadwr cadarnhaol yn y gymuned
- Bod yn llais eich cymuned - helpu Actif i ddeall materion lleol yn well
- Bod yn gynrychiolydd ar unrhyw grwpiau neu sefydliadau yn lleol
- Hyrwyddo Actif a'r cyfleoedd i'r gymuned fod yn egnïol
- Hyrwyddo'ch gweithgareddau trwy amrywiol lwyfannau ar-lein
Sut fydd hyn o fudd i Actif a'ch cymuned?
Trwy eich cyfranogiad chi, bydd yn caniatáu i Actif gyrraedd mwy o bobl yn Sir Gaerfyrddin i fyw bywyd egnïol. Ar gyfer eich cymuned, byddwch yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy o gynnig cyfeillgarwch, cwmnïaeth, magu hyder a sicrhau bod y rhai sydd mewn perygl o ynysigrwydd cymdeithasol yn cael cyfle i fod yn egnïol.
Trwy eich mewnwelediad a'ch gwybodaeth byddwch yn caniatáu i Actif ddeall beth yw anghenion a dymuniadau eich cymuned a chyfrannu at themâu a gweithgareddau prosiect yn y dyfodol.
Sut fydd hyn o fudd i mi?
- Gwybod eich bod chi'n newid bywydau pobl!
- Y cyfle i gyfrannu'n gadarnhaol at fywyd eich cymuned
- Creu cyfeillgarwch trwy'r rhwydwaith o Lysgenhadon eraill
- Bod yn rhan o dîm
- Cefnogi cyfleoedd newydd i gyfranogwyr
- Gwella sgiliau cyfathrebu
- Uwchsgilio lle bo angen trwy hyfforddiant neu gymhwyster arweinwyr
- Cael eich mentor eich hun
- Dysgu sgiliau newydd trwy ein gweithdy
- Dillad Llysgennad Cymunedol Actif
Pryd ydych chi fy angen i?
Nid oes diwrnodau ac amseroedd penodol. Mae'r rôl a'r gweithgareddau yn dibynnu pryd ydych chi ar gael.
Ble fydd lleoliad y rôl?
Nid oes lleoliad i'r rôl ac fel mae'r teitl yn awgrymu, byddem yn gobeithio y bydd gweithgareddau'n digwydd yn y gymuned rydych chi'n byw ynddi. Os ydych chi'n dymuno cynnal sesiwn weithgareddau ond nad oes gennych gyfleuster addas, yna byddwn yn mynd ati i wneud cysylltiadau â lleoedd addas i helpu i drefnu lleoliad yn eich cymuned.
Pa hyfforddiant y byddaf yn ei dderbyn?
Byddwch yn derbyn sesiwn sefydlu mewn gweithdy ac adnoddau cymorth a gynigiwn. Pan fydd yn briodol, efallai y bydd cyfleoedd i fynychu cyrsiau hyfforddi sy'n berthnasol i'ch camp neu weithgaredd. Bydd y tîm Cymunedau Actif hefyd yn sicrhau eich bod yn cael eich mentora a'ch cefnogi a'ch bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonof?
- Cynnal o leiaf un cyfle yr wythnos i gyfranogwyr fod yn egnïol
- Annog eich cymuned i fod yn egnïol
- Cadw eich gwybodaeth yn gyfredol ar wefan Actif
- Sicrhau bod sesiynau/cyfleoedd yn cael eu cynnal mewn modd diogel
- Anfon rhifau presenoldeb at eich mentor Tîm Actif
Pa Sgiliau a phriodoleddau sydd eu hangen arnaf?
Rydyn ni'n hoffi i'n holl wirfoddolwyr fod yn frwdfrydig ac yn ymroddedig i helpu'ch cymuned i fod yn egnïol yn gorfforol. Rydym hefyd yn edrych am:
Hanfodol:
- Gallu cyfathrebu ag aelodau o'ch cymuned
- Dull agos-atoch a phroffesiynol
- Trefnus
Dymunol:
- Profiad o redeg grŵp cymunedol
- Dealltwriaeth o wytnwch cymunedol
Pa gefnogaeth sydd ar gael i mi?
Bydd gennych fentor staff (Swyddog Oedolion Actif) sydd â chyfrifoldeb i sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn ac yn mwynhau'r profiad o fod yn Llysgennad Cymunedol. Byddant yn cysylltu â chi yn rheolaidd gan roi cyfle i drafod diweddariadau, adborth a chynllunio, gall hyn fod trwy alwad ffôn neu Teams/Zoom os na fydd modd cwrdd yn bersonol.
CLICIWCH YMA i gofrestru’ch diddordeb mewn bod yn Llysgennad Cymunedol.