Cyfle i blant ddysgu gyda’i gilydd, cael hwyl a bod yn egnïol, cynyddu eu sgiliau sylfaenol (ystwythder, cydbwysedd a chydsymud) o oedran ifanc gyda’u rhieni.
Amser Actif
Manteisiwch ar sesiynau a fydd yn magu hyder a gwella sgiliau trwy amrywiaeth o gyfleoedd cynhwysol y gall eich plentyn eu gwneud wrth gymdeithasu â phlant eraill, dewch i fwynhau'r hwyl!
Mae'n ymwneud â rhoi cymaint o gyfleoedd hwyliog i blant fod yn egnïol. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu a gwella eu sgiliau corfforol fel neidio, taflu a dal.
Yn addas i: 2-4 oed (dan ofal Gwarcheidwad), 5-7 oed, Merched yn Unig (8+)
Pris: £2.10 y plentyn, y sesiwn (Ionawr - Ebrill 2023)
Lleoliadau a Dyddiau (sesiynau 45 munud)
Canolfan John Burns, Cydweli - Pob Dydd Mawrth
15:45 - 16:30 (Oedran 2-4) (dan ofal Gwarcheidwad)
16:45 - 17:30 (Oedran 5-7)
17:45 - 18:30 (Oedran 8+ Merched yn Unig)
Neuadd Cwmaman - Pob Dydd Mercher
15:45 - 16:30 (Oedran 2-4) (dan ofal Gwarcheidwad)
16:45 - 17:30 (Oedran 5-7)
17:45 - 18:30 (Oedran 8+ Merched yn Unig)
Neuadd Goffa Hendy-Gwyn - Pob Dydd Iau
14:45 - 15:30 (Oedran 2-4) (dan ofal Gwarcheidwad)
15:45 - 16:30 (Oedran 5-7)
16:45 - 17:30 (Oedran 8+ Merched yn Unig)
Sut i archebu sesiwn?
I archebu'ch lle lawrlwythwch ein app ar y app store neu google play (chwiliwch am 'Actif Sport and Leisure')
Dewiswch sgrin gartref 'Cymunedau Actif'. Cliciwch ar 'Ardal Rhydaman' ar gyfer Cwmaman, 'Ardal Caerfyrddin' ar gyfer Hendy-gwyn ar Daf ac 'Ardal Llanelli' ar gyfer John Burns.
Cliciwch ar eich sesiwn ddewisol a chliciwch ar 'archebu' i'w chwblhau.
Unrhyw broblemau wrth archebu cysylltwch - Actif@sirgar.gov.uk