Ystafell Iechyd Caerfyrddin - Diweddaraf Mai

05/05/2023

Newyddion cyffrous am cyfleusterau Ystafell Iechyd yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Canolfan Hamdden Caerfyrddin yn derbyn buddsoddiad o £100k i adnewyddu ac uwchraddio'r sawna, yr ystafell stêm a'r cyfleusterau jacuzzi.

Mae'r datblygiadau cyffrous hyn yn hen bryd, a hoffem ddiolch i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth tra bod cyfleusterau'r Ystafell Iechyd ar gau.

Mae’r contractwr ar gyfer y prosiect wedi’i benodi a bydd yn dechrau ar y gwaith yn fuan, tra’n aros i’r deunyddiau gael eu dosbarthu, ac ati.

Pan fydd y gwaith yn dechrau ni fydd unrhyw newidiadau i raglen y pwll (gan gynnwys gwersi nofio) a bydd ystafelloedd newid ar agor fel arfer. Gwneir pob ymdrech i leihau unrhyw aflonyddwch. Disgwylir y bydd yn cymryd hyd at 6 wythnos i gwblhau'r holl waith ar ôl iddynt ddechrau.

Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, rydym yn gobeithio y bydd y cyfleusterau ystafell iechyd newydd eu gwella yn creu profiad cadarnhaol i bawb.”