Rydym am gynnig y gorau i chi, a dyna pam rydym yn cydweithio â Les Mills i gynnig dosbarthiadau ymarfer corff o'r radd flaenaf i chi, a hynny ar-lein ac yn ein canolfannau hamdden. Mae dosbarthiadau Les Mills wedi cael eu cyflwyno ledled Sir Gaerfyrddin mewn 3 cham.
Cam 1 (Ar Alw): Les Mills ar alw, lle gallwch gael mynediad i dros 100 o fideos trwy Actif Unrhyw Le a gwneud ymarfer corff ble bynnag a phryd bynnag mae'n gyfleus i chi. Gallwch gael mynediad i'r fideos fel rhan o'ch aelodaeth Ffitrwydd neu Actif Unrhyw Le. Ewch i ACTIF.CYMRU i gael eich aelodaeth Actif.
Os ydych eisoes yn aelod, mae'r fideo isod yn rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i gael mynediad i Actif Unrhyw Le.
Cam 2 (Rhiothiol mewn canolfannau): Dosbarthiadau rhithwir Les Mills mewn canolfan - yr opsiwn perffaith os nad oes gennych le neu offer gartref neu hoffech gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer corff gymdeithasol. Gallwch gymryd rhan drwy ddilyn hyfforddwr rhithwir yn un o'n canolfannau a byddwch yn gallu archebu lle yn y dosbarth ar yr ap neu ar-lein.
Cam 3 (Dan arweiniad hyfforddwr mewn canolfannau): Sesiynau dan arweiniad hyfforddwr Les Mills - bydd ein hyfforddwyr cymwys iawn, sydd wedi cael oriau o hyfforddiant trwyadl i ennill eu hardystiad Les Mills, yn bresennol yn y dosbarth i'ch arwain drwy BodyPump, sef y sesiwn ymarfer corff barbwysau wreiddiol.
Bydd mwy o ddosbarthiadau dan arweiniad hyfforddwyr ar gael wrth i raglenni newydd a hyfforddiant pellach gael eu cynnal, gan gynnwys BodyBalance a fydd yn cael ei lansio'n llawn ym mis Awst!
Mae'r holl ddosbarthiadau Les Mills wedi'u cynnwys yn eich aelodaeth ffitrwydd a bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau ar gael ym mhob canolfan.

Mwy o flogiau

Newyddion
Yn dilyn y cyhoeddiad wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn cael agor. Gall gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu i bobl ifanc (18 oed ac iau) ail-ddechrau o Ddydd Sadwrn 27 Mawrth.

Newyddion

Newyddion
Mae pwll nofio Llanymddyfri yn mynd i fod yn ganolfan hamdden a rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn

Yn y Cymuned
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad ac i helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus i fod mor egnïol â phosibl yn ystod y pandemig hwn.