Rydym wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau 'UK Active' 2023!

22/08/2023

Rydym wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau 'UK Active' 2023!

Ar Ddydd Gwener 18fed Awst 2023, cyhoeddodd 'UK Active' rownd derfynol Gwobrau 'UK Active' 2023'. Ar ôl y cam cyntaf, rydym wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol mewn nid un, ond tri chategori a byddwn yn cystadlu yn erbyn rhai o sefydliadau mwyaf y sector chwaraeon ar draws y DU!

- Clwb / Canolfan y Flwyddyn Rhanbarthol a Chenedlaethol - Canolfan Hamdden Llanymddyfri

- Gwobr Arloesedd

- Gwobr Trawsnewid Digidol

Cynhelir y seremoni yn Leeds yn ddiweddarach ym mis Hydref. Dywedodd prif bartner Gwobrau 2023, Prif Swyddog Gweithredol STA Dave Candler:

"Mae'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni i gyd wedi dangos gwir arloesedd a chreadigedd mewn cyfnod sydd wedi bod yn gyfnod anodd i'r diwydiant. Mae eu cyflawniadau a'r hyn y maent wedi'i wneud i helpu i hyrwyddo a datblygu'r agenda gweithgarwch corfforol yn anhygoel, ac edrychwn ymlaen at longyfarch pob un ohonynt yn y seremoni wobrwyo eleni."