Fel rhan o Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru 2020-2022 - Pwysau Iach: Cymru Iach, mae Chwaraeon Cymru yn gyfrifol am fuddsoddi £1.3 miliwn dros y 15 mis nesaf mewn cynnig hamdden cenedlaethol i bobl dros 60 oed, a fydd yn annog gweithgarwch corfforol a dewisiadau ffordd o fyw iach. Dyrannwyd cyllid i Chwaraeon a Hamdden Actif i ddarparurhaglen benodol 60+ ar gyfer 2021-22.
Nod y prosiect 60+ yw rhoi cyfle i gwsmeriaid/defnyddwyr gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden Actif sydd dros 60 oed i ail-ymgysylltu â, neu brofi am y tro cyntaf, amserlen o weith-gareddau a ddarperir yn ein cyfleusterau, ar-lein ac yn ein cymunedau a fydd yn annog gweithgarwch corfforol a dewisiadau ffordd o fyw iach.
Fydd y cynnig yn cynnwys:
8 wythnos o aelodaeth am ddim i'n holl ganolfannau hamdden* (campfeydd; dosbarthiadau a nofio) ynghyd ag 8 wythnos o aelodaeth am ddim i'n platfform digidol 'Actif Unrhyw Le' (20+ o ddosbarthiadau ar-lein yr wythnos ar gael ar hyn o bryd) ac 8 wythnos o aelodaeth am ddim i'n holl raglenni cymunedol*
Wedi'i ddilym gan:
8 wythnos o aelodaeth gyda gostyngiad o 50% i'n holl ganolfannau hamdden* (campfeydd; dosbarthiadau a nofio) ynghyd ag 8 wythnos o aelodaeth gyda gostyngiad o 50% i'n platfform digidol 'Actif Unrhyw Le' ac 8 wythnos o aelodaeth gyda gostyngiad o 50% i'n holl raglenni cymunedol*
Pan fydd yr 16 wythnos uchod ar ben, codir y gost yn llawn am fynediad llawn i'r canolfannau hamdden, platfform digidol Actif Unrhyw Le, a gweithgareddau cymunedol.
*yn amodol i arweiniad / cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chloi i lawr. Efallai na fydd rhai gweithgareddau neu gyfleusterau ar gael.
Bydd lansiad ‘tawel’ o’n cynnig Actif 60+ yn cael ei hyrwyddo ddiwedd mis Chwefror/Mawrth.
Bydd cwsmeriaid yn gallu manteisio ar y cynnig trwy gydol y flwyddyn, sy'n golygu nad oes pwysau i chi ddechrau eich 8 wythnos gyntaf erbyn dyddiad penodol. Dim ond un cyfnod 8 wythnos am ddim ac un cyfnod 8 wythnos gyda gostyngiad o 50% y byddwch yn gymwys i gael yn ystod 2021-22.
Rhaid i'r 16 wythnos (8 wythnos am ddim ac 8 wythnos 50%) ddilyn ei gilydd heb unrhyw egwyl.
Mwy o flogiau

Newyddion
Dyrannwyd cyllid i Chwaraeon a Hamdden Actif i ddarparu rhaglen benodol 60+ ar gyfer 2021-22.

Newyddion

Newyddion
Mae pwll nofio Llanymddyfri yn mynd i fod yn ganolfan hamdden a rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn

Yn y Cymuned
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad ac i helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus i fod mor egnïol â phosibl yn ystod y pandemig hwn.