RHAGLEN DYSGU NOFIO - HOLIADUR CWSMER

20/01/2021

Wrth i Gymru barhau yn y cyfnod gloi (lefel 4), rydym yn gwybod y bydd ein canolfannau hamdden Actif yn parhau i fod ar gau tan 29 Ionawr (yn amodol i newid, yn dibynnu ar gyhoeddiad nesaf Llywodraeth Cymru). Mae'n anochel y bydd hyn yn golygu y bydd ein cynlluniau i ailgychwyn ein gwersi nofio yn cael eu gohirio.

Fodd bynnag, ein blaenoriaeth pan fyddwn yn ailagor ein canolfannau fydd ailgychwyn ein gwersi nofio.

Nid oes gennym dyddiad dychwelyd wedi’i gadarnhau ar hyn o bryd, ond mae gwaith yn parhau y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod y rhaglen dysgu nofio yn ail-ddechrau mewn ffordd sy’n dilyn y canllawiau diweddaraf ac yn ddiogel i gwsmeriaid a staff.

Mae ein tîm o athrawon nofio yn barod ac eisoes wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol ynghylch yr arferion diogel COVID.

Pan fyddwn yn barod i'ch croesawu yn ôl fe sylwch ar rai newidiadau, a fydd yn cynnwys

  • cyflwyno mesurau pellhau cymdeithasol diogel 
  • dosbarthiadau llai
  • amserau y gwersi a 
  • gweithdrefnau newydd yn ein ystafelloedd newid

Er mwyn ein helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer dychweliad eich plentyn / plant i'n rhaglen dysgu nofio, byddem yn  diolchgar pe gallech dreulio amser byr yn cwblhau'r holiadur canlynol sy'n gofyn ichi a ydych chi'n bwriadu dychwelyd i'r gwersi ynghyd â'r diwrnodaua'r amserau rydych chi'n ei ffafrio.

Diolch ymlaen llaw.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi a'ch teulu yn ôl cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.