Unwaith eto rydym mewn sefyllfa ansicr oherwydd Cofid-19, ac mae Tîm Cymunedau Actif dal yma i helpu Clybiau, Grwpiau a Sefydliadau Chwaraeon ym mha bynnag ffordd y gallwn.
Rwy'n sicr rydych yn ymwybodol o reoliadau diweddara Lywodraeth Cymru bydd yn cael ei weithredu rhwng 6pm heno tan 12:01 am ar 9fed Tachwedd. Yn anffodus, bydd hyn yn cael effaith ddwys ar chwaraeon cymunedol a gweithgaredd corfforol unwaith eto.
Yn yr un modd ag unrhyw newidiadau i reoliadau gall hwn achosi rhywfaint o ddryswch, felly rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol y gallech eu rhannu â'ch aelodau i helpu i ddarparu eglurder ar y rhain.
I gael fideo cryno o'r rheoliadau ar weithgaredd, cliciwch yma. I weld manylion Llywodraeth Cymru ar y rheoliadau Torri Tân cliciwch yma. I weld Chwestiynau Cyffredin, sy’n rhoi manylion ychwanegol am weithgareddau a ganiateir yn ystod y cyfnod hwn cliciwch yma.
Mae Chwaraeon Cymru hefyd wedi cynhyrchu rhywfaint o ganllawiau y gallwch eu gweld yma yn ogystal â chyrchu'r tudalennau i'w Cronfa Cymru Actif.
Gobeithiwn y byddwch chi a'ch aelodau yn aros yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn a pheidiwch ag oedi cyn cysylltu os gallwn eich cefnogi gydag unrhyw beth.
Mwy o flogiau

Newyddion
Dyrannwyd cyllid i Chwaraeon a Hamdden Actif i ddarparu rhaglen benodol 60+ ar gyfer 2021-22.

Newyddion

Newyddion
Mae pwll nofio Llanymddyfri yn mynd i fod yn ganolfan hamdden a rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn

Yn y Cymuned
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad ac i helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus i fod mor egnïol â phosibl yn ystod y pandemig hwn.