GWEITHGAREDDAU CHWARAEON A FFITRWYDD AM DDIM YN NOC Y GOGLEDD, LLANELLI AR NOS WENER 1AF GORFFENNAF (16:00 - 19:00)
Yn Noc y Gogledd ar Dydd Gwener 1af Gorffennaf, bydd Chwaraeon a Hamdden Actif yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd AM DDIM i blant ac oedolion i ddathlu dyfodiad y Baton a hybu iechyd a lles yn y gymuned leol.
Byddem wrth ein boddau petai modd i chi ymuno â ni i ddathlu'r baton yn cyrraedd Doc y Gogledd a chael cyfle i gael llun gyda baton y Frenhines.
Bydd y sesiynau’n dechrau am 16:30 ac yn rhedeg tan 19:00 y nos, dan arweiniad ein tîm cymunedau Actif, hyfforddwyr chwaraeon a hyfforddwyr ffitrwydd.
Bydd Clwb Achub Bywyd Syrffio Llanelli hefyd yn y digwyddiad, gan sicrhau bod cyfranogwyr yn ddiogel yn y dŵr a hefyd yn darparu tiwtorialau sgiliau achub bywyd AM DDIM.
Bydd y gweithgareddau AM DDIM canlynol yn cael eu cynnal yn Noc y Gogledd:
Acwathlon (8 – 11 oed): Ras nofio a rhedeg hwyliog i blant sy'n gyflwyniad delfrydol i gamp Triathlon. Gyda phwyslais ar gymryd rhan nid oes angen profiad blaenorol!
Dosbarthiadau Sbin Awyr Agored (14+ oed): Sesiwn dwyster uchel ar feic statig sy'n sicr o gael eich calon i rasio wrth gryfhau a thynhau rhan isaf eich corff a llosgi calorïau!
DawnsFfit (11+ oed): Ymarfer corff wedi'i ysbrydoli gan ddawns sy'n cynnwys symudiadau dawns a chyflyru cyhyrau i greu sesiwn ffitrwydd hwyliog ac effeithiol.
AQUA STAND UP® FITNESS (14+ oed): Ymarfer bwrdd padlo egni uchel wedi'i ddylunio'n arbennig fel dewis amgen i ddosbarthiadau ffitrwydd ar y tir. Byddwch yn barod i losgi calorïau, cryfhau a gwneud tonnau! Does dim angen profiad!
Bwrdd Padlfyrddio (SUP) (11+ oed): Gweithgaredd chwaraeon dŵr awyr agored lle mae cyfranogwyr yn sefyll ar fwrdd mawr ac yn gwthio eu hunain gyda padl i symud o gwmpas.
*Mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol cyn mynychu sesiwn.* Mae lleoedd yn gyfyngedig felly cofrestrwch nawr i osgoi cael eich siomi:
Ystafell Newyddion Cyngor Sir Gaerfyrddin
Gwefan Ras Gyfnewid y Frehines
Ymunwch yn y cyffro wrth i Sir Gaerfyrddin groesawu Ras Gyfnewid Baton y Frenhines Birmingham 2022, ddydd Gwener, 1 Gorffennaf.
Cynhelir Gemau Gymanwlad Birmingham 2022 rhwng 28 Gorffennaf ac 8 Awst ac mae Ras Gyfnewid Baton y Frenhines yn teithio ar draws y Gymanwlad ar hyn o bryd ar daith epig i bob un o'r 72 o wledydd a thiriogaethau.
Mae'r daith yn dathlu ac yn dwyn ynghyd cymunedau ar draws y Gymanwlad yn ystod y cyfnod cyn y Gemau.
Bydd Baton y Frenhines yn cyrraedd Ynys Môn ar 29 Mehefin fel rhan o'i daith bum diwrnod ledled Cymru a bydd yn teithio i lawr y wlad ac ar draws de Cymru gan roi'r cyfle i gymunedau gael blas ar y cyffro ar gyfer Birmingham 2022, wrth i'r 11 diwrnod o chwaraeon anhygoel agosáu.
Mae amserlen brysur o weithgareddau a digwyddiadau ar y gweill a bydd cannoedd o gludwyr y Baton, pob un â chefndir a straeon ysbrydoledig, yn cael yr anrhydedd o gario'r Baton yn ystod y daith drwy Gymru.
Amserlen Sir Gaerfyrddin
Bydd mwy na 150 o blant ysgol ym Mharc Gwledig Pen-bre ar brynhawn y 1 Gorffennaf i groesawu'r Baton i Sir Gaerfyrddin ynghyd â Chadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Rob Evans, cyn cael ei gludo gan dobogan, sgïau, beic a chadair olwyn addas i'r traeth i draeth Cefn Sidan ac i ddwylo diogel yr RNLI a fydd yn cludo'r Baton ar gwch i Harbwr Porth Tywyn.
Bydd y Baton yn cyrraedd Harbwr Porth Tywyn tua 3.20pm ac yn cael ei drosglwyddo i Lysgenhadon Ifanc Chwaraeon Arian ac Aur o ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin a fydd yn cymryd eu tro i redeg a beicio ychydig dros dair milltir ar hyd Llwybr Arfordir y Mileniwm gan gyrraedd Doc y Gogledd yn Llanelli am 4.15pm.
Yma bydd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Darren Price, yn croesawu'r Baton ynghyd â nifer o athletwyr ysbrydoledig o Sir Gaerfyrddin a fydd yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.
Mae preswylwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y dathliadau a chroesawu dyfodiad y Baton, gydag amrywiaeth o weithgareddau'n cael eu cynnal yn Noc y Gogledd, wedi'u trefnu gan dîm chwaraeon a hamdden Actif y cyngor.
Bydd yr hwyl yn parhau drwy gydol y prynhawn tan 7pm gyda gweithgareddau amrywiol i hybu iechyd a llesiant gan gynnwys acwathon i'r plant iau, padlfyrddio ar eich traed, dosbarthiadau ffitrwydd yn y dŵr, dosbarthiadau sbin a sesiynau achub bywyd ar y traeth.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Darren Price:
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Ras Gyfnewid Baton y Frenhines i Sir Gaerfyrddin ac rwy'n siŵr y bydd cymunedau lleol yn ymuno yn y dathliadau wrth i'r Baton deithio o Barc Gwledig Pen-bre i Ddoc y Gogledd Llanelli. Heb os bydd yn ddiwrnod cyffrous, yn enwedig gyda'r Baton yn teithio i Harbwr Porth Tywyn ar gwch ac yna ymlaen i Ddoc y Gogledd lle bydd llu o weithgareddau chwaraeon i gymryd rhan ynddynt.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o drefnu diwrnod mor bwysig i Sir Gaerfyrddin a'i thrigolion, gan arddangos unwaith eto ein sir brydferth a'r hyn sydd ganddi i'w gynnig i'r byd.”

-
NewyddionActif yn ennill gwobr fyd-eang am brofiad aelodauDydd Gwener, 19 Chwefror 2021
-
NewyddionDatblygiadau ffitrwydd cyffrous a gwelliant digidol i' cyflesterauDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
Yn y CymunedParhau i gysylltu â'n cwsmeriaid NERSDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
NewyddionNofio rhithwir!Dydd Mercher, 10 Chwefror 2021