Pwynt gwefru cerbydau trydan newydd sbon yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin

06/03/2023

Pwynt gwefru cerbydau trydan newydd sbon yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin

Newyddion cyffrous i yrwyr cerbydau trydan! Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Actif wedi gosod dau bwynt gwefru cerbydau trydan newydd sbon yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, felly gallwch wefru eich car yn ystod eich ymweliad.

Mae ein pwyntiau gwefru newydd, a osodwyd gan Clenergy-EV, wedi'u cynllunio i allu gwefru mewn modd cyflym a dibynadwy, gan ei gwneud hi'n hawdd ichi wefru eich car pan fyddwch yn mynd i nofio, yn chwysu yn y gampfa neu'n cael eich calon i guro'n gynt yn un o'n dosbarthiadau ffitrwydd.

Ond nid dyna'r cyfan - drwy ddefnyddio ein pwynt gwefru cerbydau trydan, byddwch yn gwneud eich rhan i helpu'r amgylchedd ac i leihau eich ôl troed carbon.

Cofiwch y bydd angen i chi ddod â'ch cebl gwefru eich hun i allu gwefru'r cyfleuster hwn.

Gallwch ddarganfod rhagor am Clenergy-EV a lawrlwytho'r ap yma.

EV