Prosiect Haf o Hwyl

21/07/2022

Mae ymateb llywodraeth Cymru I Covid-19 yn y blynyddoedd diwethaf wedi darparu cyfleoedd i deuluoedd, pobl ifanc a phlant trwy roi cyllid wnaeth alluogi'r ymgyrchoedd llwyddiannus, Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles.

Y flwyddyn yma, y nod yw datblygu ar y llwyddiant ac i roi cyllid i roi cymorth tuag at gostau byw a hefyd nod i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ac i’w cynnwys mewn gweithgareddau corfforol.

Mae Actif wedi bod yn gweithio ar brosiectau ac un o rheini bydd yn darparu gweithgareddau am ddim i blant 11-16. Nod y prosiect yw torri rhwystrau i weithgarwch corfforol ac i gynyddu’r ddarpariaeth sydd ar gael i’r grŵp oed hwn bob nos Wener trwy gydol mis Awst.

Fe fydd y prosiect yn cymryd lle yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman ble all blant o bob cornel y Sir ddod i gymryd rhan mewn sesiynau. Mae'r sesiynau yn cynnwys, dodgeball, pêl droed 5 bob ochr, Aqua Stand Up, Dosbarthiadau Ffitrwydd, pêl fasged ac offer chwyddadwy y pwll.

Mae’r sesiynau yn gallu cael eu harchebu ar Eventbrite. Cliciwch yma er mwyn edrych ar, ac archebu ein gweithgareddau.