Dilyn y llwyddiant diweddar o Taith Prydain yn Sir Gaerfyrddin, rydym am barhau I gefnogi, hyrwyddo a chynnig cyfleoedd beicio i gymunedau lleol.
‘Back on your bike’ yw cynllun beicio cymunedol sy'n galluogi oedolion i reidio, waeth beth fo'u hoedran, eu gallu neu eu profiad beicio. Bydd Actif yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned lleol i ddarparu cyfleoedd beicio a hyrwyddo ffordd iach o fyw. Bydd angen i gynghorau tref a chymuned fod yn gyfrifol am storio'r beiciau, cyflwyno sesiynau a chasglu data ar gyfer Actif.
Bydd y cynnig yn cynnwys:
- Benthyciad o feiciau trydan a phedal am 8 wythnos
- 1 cwrs arweinydd taith ar gyfer gwirfoddolwr
- Mentora gan Swyddogion Oedolion Egnïol
- Cyfeirio o blatfform cyfryngau cymdeithasol Actif Communities
- Cefnogaeth a chyngor ar gyfer ceisio cyllid
Os ydych chi'n teimlo y byddai'ch tref a'ch cymuned yn elwa o'r cyfle hwn, llenwch y ddolen isod i gofrestru'ch diddordeb erbyn 15/10/2021.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â tim Cymunedau Actif.
Mwy o flogiau

Newyddion
Yn dilyn y cyhoeddiad wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn cael agor. Gall gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu i bobl ifanc (18 oed ac iau) ail-ddechrau o Ddydd Sadwrn 27 Mawrth.

Newyddion

Newyddion
Mae pwll nofio Llanymddyfri yn mynd i fod yn ganolfan hamdden a rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn

Yn y Cymuned
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad ac i helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus i fod mor egnïol â phosibl yn ystod y pandemig hwn.