Project 'Actif Legacy'
Yn Theatr y Ffwrnes yn Llanelli yr wythnos diwethaf, buom yn dathlu llwyddiannau a gwaith caled y mae pobl ifanc wedi’i gyflawni drwy gwrs 'Actif Legacy'.
Mae 'Actif Legacy' yn brosiect sy’n cael ei ddarparu gan ein swyddogion Oedolion Actif. Mae’r prosiect wedi’i anelu at bobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn Addysg na Chyflogaeth ar hyn o bryd ac am ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr trwy chwaraeon a chyfleoedd ychwanegol dros gyfnod o 10 wythnos. Diolch yn fawr i'n partneriaid Community for Work+, Scarlets yn y Gymuned a MIND. Mae’r prosiect yn parhau, ac mae grŵp arall o bobl ifanc newydd ddechrau’r bloc 10 wythnos nesaf.
“Rydym ni'n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i weithio gyda chi i gyd ac yn gobeithio y byddwch chi'n teimlo eich bod wedi'ch ysbrydoli i ddilyn eich nodau a'ch dyheadau”.
-
NewyddionActif yn ennill gwobr fyd-eang am brofiad aelodauDydd Gwener, 19 Chwefror 2021
-
NewyddionDatblygiadau ffitrwydd cyffrous a gwelliant digidol i' cyflesterauDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
Yn y CymunedParhau i gysylltu â'n cwsmeriaid NERSDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
NewyddionNofio rhithwir!Dydd Mercher, 10 Chwefror 2021