Uwch-gyfres Nofio Sir Gâr a Nofio Cymru Hydref, Tachwedd, Rhagfyr 2020
Ym mis Hydref 2020 lansiodd Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer Gweithgareddau Dŵr yng Nghymru, ei gystadleuaeth rithwir gyntaf erioed fel ymateb amgen i'r cystadlaethau nofio arferol y bu'n rhaid eu canslo i gyd oherwydd pandemig y Coronafeirws.
Rhoddodd y gystadleuaeth rithwir gyfleoedd i nofwyr gystadlu yn erbyn eraill mewn amgylchedd diogel a oedd yn rhoi ystyriaeth i gyfyngiadau Covid-19. Hefyd roedd yn gyfle iddynt ganolbwyntio ar eu nodau a'u dyheadau eu hunain, er mwyn i hyfforddwyr asesu effeithiolrwydd eu cynlluniau hyfforddi yn ystod ac ar ôl y cyfyngiadau symud. Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn ystod y sesiynau hyfforddi arferol a'u cefnogi gan dîm o wirfoddolwyr ymroddedig a oedd yn cadw amser, beirniadu strôc a dechrau'r rasys.
Fe nofiodd yr 16 oedd yn cynrychioli Nofio Sir Gâr gyfanswm o 115 o rasys yn nhair rownd y gystadleuaeth, a gynhaliwyd ym mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr. Cafwyd perfformiadau da iawn gan bob un ohonynt ac roedd y cystadlu'n frwd. Roedd mwy na 200, o bob cwr o Gymru, yn cymryd rhan yn y rhan fwyaf o'r rasys. Daethpwyd yn y deg safle uchaf mewn 43 o'r rasys a daethpwyd yn yr ugain uchaf mewn 23 o rasys eraill.
Roedd hyfforddwr Nofio Sir Gâr, Austyn Shortman, wedi'i blesio'n fawr gydag ymddygiad y nofwyr yn y gystadleuaeth hon, a dywedodd fod 'pob nofiwr wedi dangos ymrwymiad i ymarfer a chryfder mawr yn ystod y cyfyngiadau symud, a bod eu hagwedd gadarnhaol wedi talu ar ei ganfed gyda'r perfformiadau penigamp yn y gystadleuaeth rithwir hon’. Roedd Justin Cressey-Rodgers, Cadeirydd Nofio Sir Gâr, wrth ei fodd gyda pherfformiadau'r holl nofwyr a gymerodd ran, ac mae'n credu bod hwn yn llwyfan gwych iddynt barhau â'u datblygiad pan fydd mesurau'r cyfyngiadau symud yn llacio yn y dyfodol.
-
NewyddionActif yn ennill gwobr fyd-eang am brofiad aelodauDydd Gwener, 19 Chwefror 2021
-
NewyddionDatblygiadau ffitrwydd cyffrous a gwelliant digidol i' cyflesterauDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
Yn y CymunedParhau i gysylltu â'n cwsmeriaid NERSDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
NewyddionGosod her i blant ysgol Sir Gaerfyrddin fod yn egnïol - 03/02/21Dydd Mercher, 03 Chwefror 2021