Mae ein sesiynau NEWYDD 'Addysgu eich plentyn i Reidio Beic' yn gyflwyniad i rieni i'r pasbort beicio, gan roi'r wybodaeth a'r awgrymiadau sylfaenol iddynt i gefnogi eu plant i ddysgu sut i reidio beic yn llwyddiannus.
Gall plant ddod â'u helmed a'u beic eu hunain i'r sesiwn.
Bydd y sesiynau, a gyflwynir gan diwtoriaid a hyfforddwyr brwdfrydig sydd â chymwysterau uchel, yn cael eu cynnal mewn dwy ran –
- Mae'r plant yn cymryd rhan mewn Gweithgaredd Pasbort Beicio sy'n eu harwain drwy rai o'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i reidio beic yn fedrus.
- Mae'r rhieni'n cymryd rhan mewn trafodaethau ac yn cael awgrymiadau a syniadau ynghylch sut i oresgyn rhwystrau a allai ddigwydd wrth addysgu eu plant i reidio beic.
Dydyn nhw byth yn rhy ifanc
Po gynharaf y mae plant yn dechrau dysgu sut i reidio beic, y mwyaf hyderus a brwdfrydig y maen nhw, sy'n golygu eu bod yn cadw'n iach ac yn egnïol drwy gydol eu hoes.
Pryd fydd y sesiynau yn digwydd?
Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
Dydd Llun 27ain Medi 16:30-17:15
Canolfan Hamdden Llanelli
Dydd Llun 27ain Medi 16:30-17:15
Canolfan Hamdden Caerfyrddin
Dydd Llun 27ain Medi 16:30-17:15
Canolfan Hamdden Llanymddyfri
Dydd Mawrth 28ain Medi 16:30-17:15
Cost
£4.10 (am 1 sesiwn)
Fel arall, mae pasbort beicio'r rhaglen iau ar gael am £16.40 y mis fesul rhaglen (sy'n cynnwys 1 sesiwn yr wythnos)
Sut i archebu?
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol neu:
Mwy o flogiau

Newyddion
Yn dilyn y cyhoeddiad wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn cael agor. Gall gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu i bobl ifanc (18 oed ac iau) ail-ddechrau o Ddydd Sadwrn 27 Mawrth.

Newyddion

Newyddion
Mae pwll nofio Llanymddyfri yn mynd i fod yn ganolfan hamdden a rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn

Yn y Cymuned
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad ac i helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus i fod mor egnïol â phosibl yn ystod y pandemig hwn.