Newydd i Actif: Aqua Stand Up

21/07/2022

Newydd i Actif. Mae Actif wedi creu partneriaid gyda Aqua Stand Up® i ddod a chwyldro mewn ffitrwydd dyfrol i’r  Gymru a’r DU.

Rydym mor gyffrous i allu cynnig rhywbeth i bawb o fewn un cynnyrch gydag ein sesiynau Aqua Stand Up® Ffitrwydd, Aqua Stand Up® Ioga a Aqua Stand Up® Plant.

 

AQUA STAND UP FFITRWYDD A AQUA STAND UP IOGA

Mae Aqua Stand Up® yn ymarfer arloesol i'r holl gorff a ysbrydolwyd gan SUP. Mae’r sesiynau yn seiliedig ar ffitrwydd gan ymgorffori elfennau o Ioga a Pilates.

Mae’r sesiynau yn ddiogel ac yn hygyrch i bawb. Bydd y gerddoriaeth yn creu'r rhythm ar gyfer yr ymarferion hwyliog a deniadol tra byddwch yn gallu llosgi hyd at 650kcal yn ystod sesiwn 45muned.

AQUA STAND UP PLANT

Nod Aqua Stand Up Plant yw datblygu cariad i’r dŵr, bod yn egnïol a chael hwyl a mwynhad diddiwedd. Mae’r sesiynau yn addas ar gyfer oed 7+*

*yn amodol ar ddisgresiwn canolfannau hamdden unigol

 

Y MANTEISION

Adeiladwch crufder a dygnwch cyhyrol a chardiofasgwlaidd,

Gwellwch gydbwysedd a sefydlogrwydd, cryfder craidd a thon, wrth dargedu pob grŵp cyhyrau.

Mae Aqua Stand Up® yn:

D diogel

H ygyrch

H wyliog

D eniadol

 

Mae’r sesiynau ar gael fel rhan o aelodaeth ffitrwydd craidd neu yn gallu cael ei harchebu fel sesiwn talu wrth fynd. Am fwy o wybodaeth am ein haelodaeth cliciwch yma

Dewch i ymuno a’r hwyl!

SESIYNAU WYTHNOSOL - BLE A PRYD?

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Dydd Mercher 19:00 - 19:45: Aqua Stand Up® Ffitrwydd

Dydd Iau 20:00 - 20:45: Aqua Stand Up® Ioga

Dydd Gwener 18:30 - 19:00: Aqua Stand Up® Plant Cyn bo hir

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Dydd Mawrth 21:15 - 21:45: Aqua Stand Up Ffitrwydd®

Dydd Mercher 14:45 - 15:15: Aqua Stand Up Plant®

Dydd Iau 07:30 - 08:00: Aqua Stand Up Ffitrwydd®

Canolfan Hamdden Llanymddyfri

Dydd Mawrth 18:45 - 19:15: Aqua Stand Up® Ffitrwydd

Canolfan Hamdden Llanelli

Dydd Llun 14:30 - 15:00: Aqua Stand Up® Ioga

Dydd Gwener 15:30 - 16:00: Aqua Stand Up® Plant

Dydd Gwener 16:30 - 17:00: Aqua Stand Up®