NADOLIG LLAWEN WRTHOM NI YN ACTIF

24/12/2020

Wel, am flwyddyn! Rwy'n amau y byddai unrhyw un ohonom wedi rhagweld 2020 mor gythryblus. Yn Actif, rydym yn ymwybodol iawn o'r ffordd y mae'r pandemig wedi effeithio ar iechyd a llesiant cynifer o bobl. Gan fod sawl gwasanaeth wedi'u cau, rydym wedi cael ein cyfyngu o ran y ffordd y gallem eich helpu i gadw'n heini ac yn iach, yn gorfforol ac yn feddyliol, ond nid yw hynny erioed wedi ein hatal rhag meddwl amdanoch na gwneud yr hyn a allwn.

Er enghraifft, cafodd llawer o aelodau staff Actif eu hadleoli i bob math o rolau ledled y sir, gan gynnwys gweithio mewn ysbytai maes, cartrefi gofal, siopau Cyfarpar Diogelu Personol, y tîm Profi, Olrhain a Diogelu, y gwasanaeth gorfodi, banciau bwyd, canolfannau ysgolion a mwy.

Pryd bynnag y caniatawyd i weithgareddau chwaraeon a hamdden gael eu cynnal, rydym wedi agor ein drysau a'i gwneud mor ddiogel a fforddiadwy â phosibl i chi ymweld â'n cyfleusterau trwy leihau ein costau aelodaeth. Fodd bynnag, rydym yn deall bod llawer ohonoch yn teimlo'n nerfus, ac felly, ar hyn o bryd rydym yn parhau i 'rewi' eich aelodaeth yn awtomatig fel nad ydych yn cael y drafferth neu’r baich ariannol o wneud penderfyniad ynghylch eich aelodaeth.

Ers mis Medi, rydym wedi bod yn cynnal ein platfform ar-lein newydd gwych o'r enw 'Actif Unrhyw Le', sy'n cynnig dros 20 o ddosbarthiadau ffitrwydd a gweithgareddau yr wythnos. Mae'r platfform yn cael ei gynnig am ddim am gyfnod cyfyngedig i aelodau sydd wedi cofrestru, a £10 yn unig yw'r pris i bobl eraill. Rydym yn gwybod bod y platfform wedi bod yn 'llinell bywyd' i lawer ohonom, gan ei fod wedi cael sgôr 5 seren gan bobl sy'n cael eu denu o bob cwr o'r DU i wneud ymarfer corff gyda ni yn rhyngweithiol.

Mae ein tîm Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff wedi bod yn rhoi cymorth i’r rhai ohonoch sydd wedi cael eich cyfeirio atom am resymau iechyd - maent wedi gwneud dros 4,000 o alwadau ffôn i dros 500 o bobl gan ddosbarthu bron i fil o raglenni ymarfer corff gartref, yn ogystal â sesiynau a ddarperir trwy Actif Unrhyw Le.

Disgwylir i’n gwaith sy'n ymwneud ag iechyd yn benodol ehangu trwy ddefnyddio'r cyllid rydym wedi'i gael i ddatblygu ein gwaith ‘atal codymau’.

Mae ein tîm chwaraeon cymunedol wedi gweithio gyda chlybiau, cyrff llywodraethu cenedlaethol a Chwaraeon Cymru i gael dros £60,000 o gyllid grant i sicrhau y gall clybiau chwaraeon barhau i weithredu yn ystod yr adegau hyn. Mae hynny yn rhywbeth ar wahân i'r nod o sicrhau bod gweithgareddau yn parhau i gael eu cynnal mewn ysgolion ac ar eu cyfer. Mae sesiynau hyfforddiant i arweinwyr wedi cael eu cynnal ar-lein ar gyfer ysgolion a chanolfannau teulu, ac mae chwaraeon cerdded fel 'Mamau, beth am symud!' a sesiynau i deuluoedd wedi cael eu harwain mewn ardaloedd wedi’u targedu, gan gael adborth cadarnhaol gan gyfranogwyr.

Ni allwn ddiolch digon i chi am eich amynedd a'ch agwedd bositif tra ein bod yn gweithio ein ffordd trwy hyn i gyd. Rydym yn gwybod nad yw'r daith heriol hon ar ben a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu i gynnal a gwella eich iechyd a'ch llesiant yn 2021. Mae gennym lawer o ddatblygiadau cyffrous y cewch wybod rhagor amdanynt 'y flwyddyn nesaf' fel menter enfawr i bobl 60+, buddsoddiad mewn amrywiaeth o weithgareddau trwy gyllid 'Pecyn Achub' Llywodraeth Cymru, datblygu Actif Unrhyw Le ymhellach, cyfleusterau gwell a newydd, prosiectau effeithlonrwydd ynni a mwy. Nid yw'r cyfyngiadau symud yn golygu 'aros yn yr unfan' ac wrth i ni wneud rhagor o ddatblygiadau, gobeithiwn hefyd y bydd eich taith Actif yn datblygu gan ddod â'r holl fanteision sydd gan ymarfer corff at ei gilydd. Yn enwedig gan ei fod yn galluogi pob un ohonom i frwydro yn erbyn Covid-19 yn well, fel y cyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn fyd-eang ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lleol.

Y cyfan sydd ar ôl i mi ei wneud yw dymuno Nadolig Llawen mor hapus ac iach â phosibl i chi, a Blwyddyn Newydd Dda na fydd yn dechrau fel y byddem ei eisiau o bosibl ond gyda'r hyder y byddwn, gyda'n gilydd, yn cyrraedd adegau hapusach ac iachach.

Carl Daniels

Uwch Rheolwr Chwaraeon a Hamdden Actif