Beth yw 'Beat the Street'?
Gwahoddir pobl o bob oed i roi’r gorau i’r car a bod yn actif wrth i Beat the Street Llanelli gychwyn yn y dref o ddydd Mercher, Medi 28ain i ddydd Mercher, 9fed Tachwedd.
Mae Beat the Street yn gêm ryngweithiol, rhad ac am ddim sy'n annog pobl o bob oedran i ymgorffori gweithgaredd corfforol yn eu bywydau bob dydd trwy wobrwyo timau â phwyntiau a gwobrau po bellaf y maent yn cerdded, beicio a rholio.
Mae’r timau sy’n teithio bellaf yn cael eu gwobrwyo gyda thalebau ar gyfer llyfrau ac offer chwaraeon. Mae yna fwrdd arweinwyr ar gyfer cyfanswm pwyntiau ac hefyd bwrdd arweinwyr cyfartaledd felly mae cyfleoedd i dimau o bob maint ennill.
Bydd synwyryddion o’r new ‘Beat Boxes’ sy’n bîpio a fflachio yn cael eu gosod ar bolion lampau o amgylch yr ardal am gyfnod y gêm chwe wythnos. Bydd disgyblion ysgol gynradd yn cael pecyn chwaraewr sy'n cynnwys map a cherdyn ar gyfer y plentyn ac oedolyn sy'n dod gyda nhw. Gall y gymuned ehangach godi cerdyn digyswllt o bwynt dosbarthu a restrir yn www.beatthestreet.me/llanelli.
Yna mae chwaraewyr yn teithio rhwng y ‘Beat Boxes’ digyswllt gan sgorio pwyntiau gyda'u cardiau wrth fynd. Po bellaf y bydd chwaraewyr yn teithio, y mwyaf o bwyntiau y byddant yn eu sgorio ar gyfer eu tîm cymunedol neu ysgol. Mae thema bob wythnos gyda gwahanol weithgareddau i helpu cyfranogwyr i gael y gorau o'u profiad Beat the Street.
Mae Beat the Street Llanelli yn cael ei ddarparu gan Intelligent Health, wedi ei gomisiynu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac yn cael ei gefnogi gan Chwaraeon Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
“Rydym yn falch iawn o ddod â’r gêm arloesol a chymhellol hon i Lanelli ac rydym yn edrych ymlaen at weld pa mor bell y gall pawb gerdded, rhedeg, beicio a sgwtera. Mae’r gêm yn dod ag elfen gystadleuol i weithgarwch corfforol, ond yn fwy na hynny, mae’n uno cymunedau, yn helpu pobl i ddod i adnabod eu hardal leol, yn lleihau allyriadau carbon ac yn gwella gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl.”
Darganfyddwch fwy am sut i chwarae YMA:
I gael rhagor o wybodaeth am Beat the Street Llanelli ewch i: https://www.beatthestreet.me/llanelli
-
NewyddionActif yn ennill gwobr fyd-eang am brofiad aelodauDydd Gwener, 19 Chwefror 2021
-
NewyddionDatblygiadau ffitrwydd cyffrous a gwelliant digidol i' cyflesterauDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
Yn y CymunedParhau i gysylltu â'n cwsmeriaid NERSDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
NewyddionNofio rhithwir!Dydd Mercher, 10 Chwefror 2021