Annwyl Aelod Actif,
Rydym yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am ddiweddariad cyffrous i'n system archebu a fydd yn cael ei lansio ddydd Llun 16 Fai.
O ddydd Llun os bydd dosbarth yn llawn, byddwch yn gallu ychwanegu eich enw at y rhestr aros ar gyfer y dosbarth hwnnw.
Pan fydd lle ar gael, bydd e-bost yn cael ei anfon i roi gwybod i'r holl gwsmeriaid ar y rhestr aros bod lle ar gael, bydd yr e-bost yn cynnwys botwm i chi archebu nawr, bydd hyn yn archebu eich lle yn y dosbarth os yw'r lle dal ar gael. Sylwer, cynigir hyn ar sail y cyntaf i'r felin.
Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o gwsmeriaid yn gallu mynychu dosbarthiadau ac yn lleihau lleoedd gwag mewn dosbarthiadau.
Wrth gwrs, rydym yn gwerthfawrogi unrhyw adborth gan gwsmeriaid, gallwch anfon hwn atom drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau.
Bydd telerau ac amodau canslo yn berthnasol.
Cofion gorau,
Y Tîm Actif
Mwy o flogiau

Newyddion
Yn dilyn y cyhoeddiad wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn cael agor. Gall gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu i bobl ifanc (18 oed ac iau) ail-ddechrau o Ddydd Sadwrn 27 Mawrth.

Newyddion

Newyddion
Mae pwll nofio Llanymddyfri yn mynd i fod yn ganolfan hamdden a rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn

Yn y Cymuned
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad ac i helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus i fod mor egnïol â phosibl yn ystod y pandemig hwn.