Gŵyl Fowlio Dinefwr

16/08/2022

Fel rhan o'n hymdrech barhaus i hyrwyddo chwaraeon mewn ysgolion ac yn y gymuned yn Sir Gaerfyrddin, gwnaethom uno'r ddau mewn digwyddiad diweddar. 

I helpu i dynnu sylw at gyfleuster arbennig Clwb Bowlio Dinefwr, ac i hyrwyddo bowlio fel camp i blant lleol, gwnaethom gynnal gŵyl yn ddiweddar oedd yn rhoi cyfle i ysgolion lleol ddod i gael profiad o chwarae bowls ac i gael eu hyfforddi gan aelodau'r clwb.  

Yn ystod y dydd daeth dros 120 o ddisgyblion o'r ardal leol i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau oedd yn gysylltiedig â bowlio. Darparwyd rhai gweithgareddau gan swyddogion Cymunedau Actif, a chynhaliwyd sesiynau oedd yn ymwneud yn benodol â bowlio yn y ganolfan gan wirfoddolwyr a hyrwyddodd y gamp yn eu hamser sbâr.  

Prif ganolbwynt y digwyddiad hwn oedd; 

  • Tynnu sylw at yr amrywiaeth o chwaraeon sydd ar gael i blant yn Sir Gaerfyrddin  
  • Hyrwyddo pontio'r cenedlaethau ac annog pob oedran i fwynhau chwaraeon gyda'i gilydd 
  • Cyfeirio at ddigwyddiadau a sesiynau eraill a gynhelir gan y clwb 
  • Annog pobl i ddefnyddio'r cyfleuster  
  • Denu aelodau newydd i helpu i gynnal y clwb bowlio ac i ddatblygu'r adran iau

Fel dilyniant i'r sesiynau hyn ac i sicrhau cynaliadwyedd a mynediad i bawb, roedd Clwb Bowlio Dinefwr wedi cynnig sesiynau am ddim i deuluoedd drwy gydol gwyliau'r haf gan ganiatáu i blant a'u rhieni ddod i gael tro, gweld pryd y mae sesiynau'n cael eu cynnal, a defnyddio'r cyfleuster. 

Os hoffech roi cynnig ar Fowlio neu gael rhagor o wybodaeth am y ganolfan, cysylltwch â'r clwb drwy ddefnyddio'r manylion isod; 

Facebook; DinefwrBowls 

Cyfeiriad e-bost; dinefwrbowls@gmail.com 

Rhif ffôn; 01269 597754 

bowlio
bowlio2