Mae Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin, sydd bellach yn ei 22ain flwyddyn, yn un o'r nosweithiau mwyaf mawreddog yng nghalendr chwaraeon Sir Gaerfyrddin.
Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r bobl hynny sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac wedi dangos llwyddiannau eithriadol yn eu maes boed hynny fel unigolyn, hyfforddwr, gwirfoddolwr neu dîm chwaraeon mewn chwaraeon anabl, proffesiynol ac amatur.
Mae rhai o’r rhain yn cynrychioli eu camp ar lefel leol, genedlaethol neu hyd yn oed ryngwladol ac rydym am gydnabod a dathlu eu hymrwymiad a’u gwaith caled. Eleni, roeddem hefyd yn chwilio am unigolion, timau a chlybiau a oedd, er gwaethaf y pandemig COVID-19, wedi goresgyn adfyd i ysbrydoli eraill i fod yn egnïol yn ystod y cyfyngiadau clo.
Trefnir y gwobrau gan Dîm Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Ein prif noddwr yw McDonalds, gyda 1st Line Funeral Care, Enzo's Homes Limited, Coleg Sir Gar a TAD Builders yn noddi categoriau. Rydym yn diolch iddynt am eu cefnogaeth barhaus.
Bydd enillydd pob categori yn cael eu datgelu yn seremoni Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli ar Ddydd Iau 10fed Mawrth 2022 (o 7:30yh)
Diolch i bawb enwebodd unigolyn, tîm neu glwb. Mae rhestr lawn o'r holl ymgeiswyr ar y rhestr fer fesul categori i'w gweld isod.
Rhestr Fer - Athletwyr, Gwirfoddolwyr, Hyfforddwyr, Timau a Clybiau
Archebwch eich tocyn i fynychu'r noson wobrwyo ar 10fed Mawrth (yn Theatr Y Ffwrnes): cliciwch yma
Archebwch eich tocyn i wylio'r gwobrau yn fyw yn rhithiol ar 10fed Mawrth (o adref): cliciwch yma
Mwy o flogiau

Newyddion
Yn dilyn y cyhoeddiad wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn cael agor. Gall gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu i bobl ifanc (18 oed ac iau) ail-ddechrau o Ddydd Sadwrn 27 Mawrth.

Newyddion

Newyddion
Mae pwll nofio Llanymddyfri yn mynd i fod yn ganolfan hamdden a rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn

Yn y Cymuned
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad ac i helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus i fod mor egnïol â phosibl yn ystod y pandemig hwn.