Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin 2022 yn dychwelyd i Theatr Y Ffwrnes

16/02/2023

Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin 2022,

Dathlwyd chwaraewyr talentog Sir Gaerfyrddin yng Ngwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin 2022 nos Iau, 16 Chwefror.

Cafodd y gwobrau eu cynnal am y 23ain tro yn Theatr y Ffwrnes yn Llanelli a’u trefnu gan dîm Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin. Y seremoni yw un o'r nosweithiau mwyaf mawreddog yng nghalendr chwaraeon Sir Gaerfyrddin.

Nigel Owens MBE, cyflwynydd a dyfarnwr rygbi'r undeb, oedd yn cyflwyno'r noson am yr ail flwyddyn yn olynol.

Roedd Gwobrau Chwaraeon blynyddol Actif Sir Gaerfyrddin yn cydnabod cyflawniadau a llwyddiannau athletwyr unigol a chlybiau chwaraeon, yn ogystal â chydnabod cyfraniad hyfforddwyr ymroddedig a gwirfoddolwyr gweithgar sy'n gwneud gwahaniaeth drwy chwaraeon a'u cymunedau.

Roedd mwy nag ugain o unigolion, pedwar tîm a thri chlwb wedi cael eu henwebu ar gyfer cyfanswm o 12 gwobr. Roedd y gwobrau eleni yn cynnwys amrywiaeth o chwaraeon a chefndiroedd eto, gan gynnwys Athletau, Chwyrlïo Baton, Bowlio, Criced, Beicio, Dawnsio, Pêl-droed, Gymnasteg, Hoci, Karate, Jiwdo, Pêl-rwyd, Rhwyfo, Rygbi, Saethu, Sgïo, Nofio a Pholo dŵr.

Yn ogystal â Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, roedd y categorïau'n cynnwys Mabolgampwr a Mabolgampwraig Ifanc, Chwaraewr Anabl, Gwirfoddolwr Chwaraeon, Person Ifanc Ysbrydoledig, Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol a Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel, Tîm Chwaraeon, Tîm Ifanc, Clwb Cymunedol y Flwyddyn a'r categori Gwasanaeth Eithriadol i Chwaraeon.

Daeth y rhai oedd wedi cyrraedd y rhestr fer, teuluoedd, cefnogwyr, noddwyr, staff y cyngor sir a gwesteion arbennig ynghyd yn y lleoliad yng nghanol canol tref Llanelli a chroesawyd y prif noddwyr, sef Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.

Ein noddwyr ar gyfer y categorïau eraill eleni oedd Coal Bunker Glamping Pods, Scott Ltd, Enzo’s Homes Ltd, Gavin Griffiths, Cycle Champs, Bwydydd Castell Howell, Chwaraeon Cymru, TAD Builders a Choleg Sir Gar. Rydym yn diolch iddynt am eu cefnogaeth hael a pharhaus.

Elusennau'r noson oedd Ambiwlans Awyr Cymru a Hosbis Tŷ Bryngwyn, Llanelli a rhoddodd gwesteion dros £1,000 tuag at waith yr achosion teilwng hyn.

Diolch i bawb a enwebodd unigolyn, tîm neu glwb ar gyfer y gwobrau eleni ac am ymuno a ni yn Theatr y Ffwrnes nos Iau. Diolch yn fawr iawn i bawb a weithiodd yn ddiflino y tu ôl i'r llen i drefnu a chyflwyno digwyddiad gwobrau chwaraeon llwyddiannus arall.

Pob lwc i bawb dros y 12 mis nesaf wrth i ni edrych ymlaen at flwyddyn fawr arall o chwaraeon. Mae Tîm Cymunedau Actif yn edrych ymlaen at agor a gwahodd enwebiadau ar gyfer gwobrau 2023 yn ddiweddarach eleni!

Darganfyddwch fwy am y rhestr fer eleni trwy glicio ar y gategorïau’r gwobrau isod.

Albwm Lluniau o wobrah 2022 (Facebook)

spa
spa2
spa3

Rhestr Fer Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin 2022

Personoliaeth Chwaraeon Y Flwyddyn

Categori wedi noddi gan: Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant

 

ENILLYDD:

Emma Finucane (Beicio)

Hyfforddodd Emma, a raddiodd o Glwb Beicio Towy Riders, ar gyfer dygnwch a rasio ar y ffordd i ddechrau, ond buan y gwelwyd ei photensial fel sbrintiwr ac ar y trac.

Ers hynny, nid yw wedi edrych yn ôl, gan gystadlu yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cystadlodd Emma yng Ngemau'r Gymanwlad mewn cystadlaethau sbrint tîm ac unigol, gan ennill Efydd yn y ddwy!

Hon oedd yr 2il flwyddyn i Emma gystadlu ar lefel hŷn elît ac mae wedi mynd ati'n gyflym i gystadlu gyda'r gorau yn y byd, a hithau dim ond yn 20 oed. Ar hyn o bryd, mae Emma yn rhan o raglen academi Prydain Fawr.

 

AIL:

Alisha Butchers (Rygbi)

Dechreuodd Alisha chwarae rygbi cymysg pan oedd yn 6 oed i dimau mini ac iau cymysg cyn chwarae i dîm merched Cwins Caerfyrddin a Chlwb Rygbi Penybanc. Mae Alisha wedi chwarae dros y Scarlets a Chymru ar radd oedran ranbarthol a rhyngwladol cyn symud i Gaerwrangon ac yna Bristol Bears.

Ym mis Ionawr 2022, Alisha oedd un o'r menywod cyntaf i gael cytundeb llawn amser gan Dîm Rygbi Merched Cymru, ac mae wedi bod yn rhan enfawr o'r tîm yn ystod y 12 mis diwethaf.

Cafodd Alisha ei henwi'n chwaraewr y twrnamaint ym Mhencampwriaethau'r Chwe Gwlad 2022, a chwaraewr y flwyddyn gan Gymdeithas Awduron Rygbi Cymru.

 

AIL:

Sara Nicholls (Bowlio)

Mae Sara, sy'n aelod o Glwb Bowlio Llandeilo, wedi gwneud aberthau enfawr drwy gydol y flwyddyn hon ac yn y blynyddoedd blaenorol i chwarae bowliau lawnt dros Gymru. Cafodd Sara ei dewis i gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn y parau menywod.

Cyrhaeddodd y pâr rownd yr wyth olaf yn erbyn Seland Newydd, ond yna methu ag ennill medal o 1 pwynt, ar ôl arwain am y rhan fwyaf o'r gêm. Mae Sara hefyd wedi chwarae nifer o gemau prawf dros Gymru gan gystadlu yn erbyn timau cenedlaethol eraill.

Mae wedi ymrwymo i'r gamp yn gyfan gwbl ac mae'n tanio brwdfrydedd pawb â'i hangerdd dros fowlio lawnt.

Mabolgampwr Ifanc Y Flwyddyn

Categori wedi noddi gan: Coal Bunker Glamping Pods

 

ENILLYDD:

Ieuan Jones (Gymnasteg)

Mae Ieuan yn aelod o Glwb Gymnasteg Dimax ac mae'n cystadlu mewn twmblo.

Ym mis Ebrill 2022 bu Ieuan yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Cymru, lle daeth yn Bencampwr Cymru yn y categori oedran 17-21, ac yntau dim ond yn 16 oed. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, yn Birmingham aeth Ieuan ymhellach drwy ddod yn 'Bencampwr Grŵp Oedran Cenedlaethol Prydain' yn y categori oedran 17-21, ar ôl perfformiad gwych a oedd yn cynnwys rhediadau newydd.

Yn dilyn y llwyddiant hwn, cafodd Ieuan ei ddewis ar gyfer Pencampwriaethau Prydain ar lefel hŷn. Mae Ieuan yn gymnastwr poblogaidd, ac mae ei ymroddiad a'i ddyfalbarhad yn ysbrydoliaeth i eraill.

 

AIL:

Daniel Johnstone (Nofio)

Bu Daniel, aelod o Glwb Nofio Sir Gâr, yn cystadlu mewn sawl cystadleuaeth genedlaethol a rhyngwladol yn ystod tymor 2021/22.

Ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn Abertawe ym mis Ebrill 2022, daeth Daniel yn 1af yn y ras nofio ar y cefn 50 metr, ac yn 2il yn y rasys nofio ar y cefn 100m a 200m. Mae'n anodd iawn ennill lle yn y gystadleuaeth hon ac mae’r cystadleuwyr yn gryf ond mae dod yn Bencampwr Cymru yn gamp anhygoel.

Mae Daniel wedi dangos gwydnwch a phenderfyniad mawr y tymor hwn, ac er iddo gael anaf gwael i'w ysgwydd canolbwyntiodd ar wella ac aeth ymlaen i gystadlu ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Prydain yr Haf a'r Pencampwriaethau Sirol Cenedlaethol.

 

AIL:

Jordan Blassberg (Polo dŵr)

Mae Jordan, sy'n ddisgybl yn Ysgol Bryngwyn, yn cystadlu dros Gymru mewn polo dŵr. Bu Jordan, fel rhan o Garfan Cymru ar gyfer ei grŵp oedran, yn cystadlu yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol Ewropeaidd lle daeth y tîm yn 12fed.

Yn ystod y gystadleuaeth, sgoriodd Jordan 3 gôl, cafodd ei enwi'n seren y gêm yn erbyn Iwerddon ac enillodd 5 cap rhyngwladol dros Gymru.

Ar ôl cystadlu dros Gymru sawl tro cafodd Jordan ei ddewis i gymryd rhan mewn treialon ar gyfer tîm Prydain Fawr ac yna cafodd ei wahodd i hyfforddi fel rhan o'r garfan estynedig.

Mabolgampwraig Ifanc Y Flwyddyn

Categori wedi noddi gan: Scott Ltd

 

ENILLYDD:

Sadie Rees (Dawnsio 'Ballroom')

Mae Sadie Mai yn 15 oed, ac mae'n mynychu Ysgol y Strade ac yn cystadlu mewn dawnsio neuadd a dawnsio Lladinaidd. Mae Sadie yn teithio i Gaerdydd dair gwaith yr wythnos i hyfforddi, ac mae'n gwneud hyd yn oed mwy o deithiau wrth i gystadlaethau agosáu.

Y tymor hwn, mae Sadie wedi rhagori mewn dawnsio a gall alw ei hun yn Bencampwr Ffurfiant Lladinaidd Dawnsio Neuadd Iau Prydain, Pencampwr Ffurfiant Cyplau Iau Ewrop ac ym mis Mawrth 2022 bu Sadie yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Ffurfiant y Byd lle daeth ei thîm 'Dance Crazy' yn Bencampwyr y Byd.

Yn ogystal â hyn, cafodd Sadie ei dewis i fod yn is-gapten tîm Cymru - sef yr anrhydedd fwyaf.

 

AIL:

Emily Shawyer (Saethu)

Mae Emily yn 21 oed, mae'n cystadlu mewn saethu ac ar hyn o bryd mae yn y safle cyntaf yng Nghymru a Phrydain. Ers ennill medal aur gyntaf Prydain Fawr mewn cystadleuaeth Ffederasiwn Chwaraeon Saethu Rhyngwladol y llynedd mae Emily wedi bod yn benderfynol o barhau i wella a datblygu.

Mae hi wedi bod yn hynod lwyddiannus yn y gamp gan gadw ei safle cyntaf ym Mhrydain ac wedi ennill casgliad gwych o fedalau, gan gynnwys 3 medal aur yn olynol a medal arian yn y gystadleuaeth Menywod Iau; a 2 fedal aur, medal arian a medal efydd yn y gystadleuaeth Timau Cymysg Iau.

Mae Emily yn gorffen ei thymor Iau olaf yn Bencampwr Iau Cyfres Grand Prix Sbrint Targed ISSF 2022 ac mae wedi cael ei gosod yn Rhif 1 yn y byd!

 

AIL:

Awen Roberts (Beicio)

Mae Awen yn 17 oed ac mae'n cystadlu mewn beicio. Mae Awen wedi cael blwyddyn wych yn cystadlu dros Brydain Fawr ledled Ewrop.

Mae ei chyflawniadau'n cynnwys dod yn 3ydd yn y Ras Dileu Ewropeaidd i Fenywod Iau ym Mhortiwgal, yn 2il yn y Pencampwriaethau Rasio ar y Ffyrdd Cenedlaethol i Fenywod Iau yn Swydd Efrog ac yn 7fed yn y Pencampwriaethau Scratch Ewropeaidd i Fenywod Iau.

Mae Awen wedi ymrwymo i hyfforddi, mae'n feiciwr tîm ardderchog ac mae ganddi lawer o botensial fel beiciwr iau.

Chwaraewr Anabl Y Flwyddyn

Categori wedi noddi gan: Enzo's Homes Limited

 

ENILLYDD:

Nia Holt (Beicio)

Mae Nia yn aelod o Academi Rasio Cymru ac ar ôl bwlch o 10 mlynedd, a oedd yn cynnwys magu teulu, dechreuodd Nia gystadlu yn y gamp eto a chafodd lwyddiant ysgubol yn 2022.

Mae llwyddiant Nia yn cynnwys dod yn 2il ym Mhencampwriaethau Tandem 200m Menywod Parafeicio Prydain 2022 yn Felodrom Geraint Thomas, Casnewydd ym mis Mawrth, dod yn 12fed ym Mhrawf Amser B Menywod Cwpan y Byd UCI yng Ngwlad Belg ym mis Mai ac, ochr yn ochr â'i pheilot, Amy, dod yn 5ed, sef safle da iawn, ym Mhrawf Amser 1000m Tandem B Menywod yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham ym mis Gorffennaf.

 

AIL:

Chris Spriggs (Bowlio)

Mae Chris Spriggs yn cynrychioli Cymru mewn nid un ond dwy gamp - bowlio a Rygbi'r Gynghrair.

Yn ystod haf 2022 roedd Chris yn rhan o Dîm Parafowlio Cymru a fu'n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham - y tro cyntaf iddo gymryd rhan mewn cystadleuaeth o'r fath.

Mae Chris hefyd yn aelod o Dîm Rygbi Cymru, un o 8 tîm fu'n rhan o Gwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair. Mae Chris yn ysbrydoliaeth i'w gyd-chwaraewyr yn y ddwy gamp ac mae i'w weld yn aml yn helpu ac yn cefnogi eraill yn ei glybiau.

 

AIL:

Luke Jones (Beicio Llaw)

Mae Luke yn feiciwr llaw ac yn gyn-enillydd y wobr Chwaraewr Anabl. Mae Luke wedi cael blwyddyn wych yn cystadlu am deitlau cenedlaethol yng Nghymru a thros y ffin yn Lloegr.

Ym mis Gorffennaf 2022 daeth Luke yn 4ydd yn rowndiau 5 a 6 y Gyfres Ffordd Anabledd a Pharafeicio Genedlaethol, yng Nghaerfaddon, ac yna aeth ymlaen i ddod yn bencampwr yn y Pencampwriaethau Cylchffordd Gaeedig Anabledd a Pharafeicio Cenedlaethol yn y Rhyl ym mis Awst, a'r Pencampwriaethau Prawf Amser Cymysg yng Nghastell Beeston.

Person Ifanc Ysbrydoledig Y Flwyddyn

Categori wedi noddi gan: Castell Howell

 

ENILLYDD:

Frances Mackie (Pêl-rwyd, Athletau, Criced)

Mae Frances yn 15 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Glan-y-Môr ac mae'n gwirfoddoli mewn amrywiaeth o leoedd yn ei hysgol a'r gymuned. Mae Frances yn Llysgennad Ifanc Platinwm ac mae'n rhan o gyngor Iechyd a Lles yr ysgol, gan gadeirio cyfarfodydd a sicrhau bod lleisiau'r disgyblion yn cael eu clywed.

Yn y gymuned mae Frances yn gwirfoddoli ar gyfer Harriers Caerfyrddin a Chlwb Criced Cydweli bob wythnos, gan ysbrydoli a helpu eraill i fod yn egnïol.
Yn fwy diweddar mae Frances wedi llwyddo i gael lle ar y Grŵp Llywio Cenedlaethol Llysgenhadon Ifanc gan roi llais i bobl ifanc Cymru.

Mae Frances yn hynod o dalentog ac wedi ymrwymo'n llwyr i chwaraeon, mwynhad a chyfranogiad.

 

AIL:

Stephanie Bowler (Chwyrlio Baton)

Mae Steffanie yn gwirfoddoli fel hyfforddwr mewn 4 clwb cymunedol gwahanol - Celtique Twirlers, Dynamic Twirlstars, BTAC ac Ysgol Ddawns Revolutionise. Drwy ei rolau hyfforddi mae'n treulio 15 awr yr wythnos ar gyfartaledd yn cynnal clybiau i dros 75 o blant a phobl ifanc dros 4 diwrnod.

Mae'n amlwg bod Steffanie yn hynod angerddol am helpu ac ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwyrlïo baton a bod meddwl mawr ohoni ymhlith ei chlybiau.

 

AIL:

Gwenllian Jones (Rygbi, Athletau, Jiwdo, Pêl-droed)

Mae Gwenllian yn 17 oed ac mae'n mynychu Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin. Mae Gwenllian yn gwirfoddoli am 5 awr yr wythnos ac yn ymdrechu i gael cynifer o blant a phobl ifanc â phosibl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.

Mae Gwenllian yn Llysgennad Ifanc Platinwm, yn helpu i hyfforddi tîm pêl-droed merched yn yr ysgol - rhywbeth mae'n teimlo'n angerddol drosto - ac yn y gymuned mae'n cyflwyno sesiynau Jiwdo yn ogystal ag amrywiaeth o sesiynau amlchwaraeon gyda'r Urdd.

Mae Gwenllian yn ysbrydoliaeth i'r genhedlaeth iau a heb ei hamser a'i hymdrech, ni fyddai llawer o'r sesiynau hyn yn cael eu cynnal.

Gwirfoddolwr/wraig Chwaraeon Y Flwyddyn

Categori wedi noddi gan: Cycle Champs

 

ENILLYDD:

Nathan Jones (Athletau)

Mae Nathan yn enw cyfarwydd iawn ym myd athletau. Nid am neidio dros y clwydi neu am y naid uchel ond am dreulio cannoedd o oriau yn gwirfoddoli o amgylch Cymru.

Mae Nathan yn gwirfoddoli ar y trac ac oddi ar y trac gyda'i glwb Harriers Caerfyrddin lle mae'n treulio oriau bob wythnos yn rheoli eu gwefan ardderchog, gan gynnwys newyddion, gemau, canlyniadau, ac adnewyddu diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Hefyd gellir gweld Nathan yn rheolaidd yn cefnogi digwyddiadau gyda Sir Gaerfyrddin, Brianne, Ysgolion Dyfed, Gorllewin Cymru, ac Athletau Cymru. Yn aml, ef yw'r cyntaf i gyrraedd i helpu i baratoi ac nid yw’n gadael hyd nes y bydd yr holl dasgau wedi cael eu gwneud ar ôl cystadleuaeth. Mae Nathan yn effeithlon ac yn wirfoddolwr cwbl ddibynadwy.

 

AIL:

Anika Lloyd (Pêl-droed)

Mae Clwb Pêl-droed Rhydaman wedi mynd o nerth i nerth o dan gyfarwyddyd ac arweiniad Anika, ac o ganlyniad i'w gweledigaeth glir a'i blaengarwch mae'r clwb wedi derbyn Achrediad Platinwm Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Ym mis Mai y llynedd, trefnodd Anika yr ŵyl pêl-droed mini i glybiau gan roi cyfle i 186 o dimau ar draws Gorllewin Cymru gymryd rhan.

Yn ogystal â rhoi ei hamser i'r clwb, mae'n dod ag ymdeimlad o berthyn a theulu sydd mor bwysig. Mae Anika yn rhan werthfawr o'r clwb yn enwedig oherwydd ei brwdfrydedd dros chwaraeon a phêl-droed sy'n heintus ac sy'n annog pawb o'i chwmpas i fod eisiau gwneud mwy. 

 

AIL:

Bethan Drinkall (Sgio)

Mae Bethan a'i thîm yn Ski4all yn rhoi eu hamser, eu hegni a'u hymdrechion i roi profiadau gwella bywyd ar sail gwirfoddolwyr. Mae Bethan yn rhoi o leiaf 1 diwrnod cyfan bob wythnos i drefnu sesiynau ar gyfer cyfranogwyr Ski4All Wales.

Fel elusen lwyddiannus sy'n gweithredu ers 2015 mae Bethan yn cymryd rhan mewn llawer o waith codi arian i'r clwb. Eleni dringodd Beth a'i gŵr fynydd ym Moroco i godi arian i'r clwb.

Mae Bethan yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, mae'n ddiflino a does dim atal arni.

Hyfforddwr/wraig Chwaraeon Cymunedol Y Flwyddyn

Categori wedi noddi gan: Gavin Griffiths

 

ENILLYDD:

Susy Soravia (Carate)

A hithau'n Sensei ymroddedig ar gyfer Clwb Higashi Karate Kai yn Rhydaman a Cross Hands, mae Susy wedi datblygu ymdeimlad cryf o gymuned yn y clwb.

Mae Susy yn ysbrydoliaeth i'r myfyrwyr, gan ei bod nid yn unig yn hyfforddi mewn ffordd frwdfrydig ond hefyd yn helpu i chwalu'r rhwystrau rhwng yr ifanc a’r hen, graddau uwch ac is a myfyrwyr abl ac anabl, gan ganolbwyntio ar yr hyn y gall y person ei wneud yn hytrach na'r hyn na all ei wneud.

A hithau'n fyddar, mae Susy wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod unigolion byddar ac anabl yn cael eu cynnwys ym myd crefft ymladd. Mae Susy hefyd wedi cael ei chydnabod fel y beirniad byddar cyntaf erioed yng Nghymru mewn cystadleuaeth lle nad oes nam ar y clyw gan bobl sy'n cystadlu.

 

AIL:

Neil Thomas (Athletau)

Mae Neil, sydd wedi bod yn hyfforddi bron bob wythnos am y saith mlynedd diwethaf, wedi bod yn amhrisiadwy i glwb athletau Harriers Caerfyrddin.

Ac yntau'n hyfforddwr dygnwch ers sawl blwyddyn, mae Neil wedi gallu sicrhau llawer o lwyddiannau ymhlith ei garfan mewn cystadlaethau unigol a thîm. Mae Neil wedi bod yn gyfrifol am hyfforddi yng nghyrsiau hyfforddi rhanbarthol Gorllewin Cymru ac mae wedi bod yn rheolwr tîm Cymru ar gyfer Marathon Llundain a thîm traws gwlad Celtaidd Cymru yn Belfast.

Mae Neil yn rhoi llawer o amser i ddarparu cyfleoedd athletau ledled Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys trefnu digwyddiadau i ysgolion cynradd, pencampwriaethau traws gwlad Cymru a rasys cyfnewid ar y ffordd Cymru.

 

AIL:

Helen Thomas (Pêl-rwyd)

Sefydlodd Helen glwb pêl-rwyd Morganite yn y 90au ac mae wedi ysgogi datblygiad a llwyddiant y clwb.

Mae Helen yn rhoi ei hamser i hyfforddi pob un o'r 6 thîm hŷn, gan eu cefnogi bob wythnos yng nghynghrair Pêl-rwyd Llanelli ac mae hefyd wedi cefnogi'r tîm dan 14 a dan 16 trwy gyfnod lle'r oedd yr adran yn y fantol. Mae Helen yn credu bod rhoi cyfleoedd i ferched ifanc chwarae pêl-rwyd yn eu cymuned eu hunain mor bwysig i'w hyder a'u hunanwerth.

Bydd Helen yn mynd yr ail filltir ar gyfer y clwb ac mae wedi ymrwymo i gefnogi nid yn unig y chwaraewyr ond hefyd y tîm o wirfoddolwyr.

Hyfforddwr/wraig Perfformiad Lefel Uchel Y Flwyddyn

ENILLYDD:

Shelley Pace (Gymnasteg)

Mae Shelley, prif hyfforddwr Ysgol Gymnasteg Sir Gaerfyrddin yn y ddisgyblaeth twmblo, yn goruchwylio'r Garfan Ddatblygu, gan nodi talent naturiol o bob oedran.

Mae'r gymnastwyr, o dan arweiniad Shelley, yn gyson yn cyflawni safonau uchel mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol; mae 20 yng Ngharfan Twmblo Datblygu Ardal De Cymru, 10 yng Ngharfan Twmblo Datblygu Cenedlaethol Cymru a 6 yng Ngharfan Twmblo Gwledydd Cartref Cymru.

Mae Shelley hefyd yn fentor i lawer o glybiau yn ne Cymru gan ddatblygu eu sgiliau hyfforddi a'u harwain trwy eu cymwysterau hyfforddi lefel 1 a chymwysterau hyfforddi eraill, ochr yn ochr â gweithio tuag at ei lefel 5 mewn hyfforddi ac ailddilysu ei chymwysterau beirniadu. 

 

AIL:

Euros Evans (Rygbi)

Mae Euros yn wyneb adnabyddus ac uchel ei barch ym myd rygbi. Nid yn unig fel Cyfarwyddwr Rygbi Coleg Sir Gâr, sef rôl sydd ganddo ers blynyddoedd lawer erbyn hyn, ond hefyd fel prif hyfforddwr clwb yr Uwch Gynghrair, Llanymddyfri.

Drwy ei rôl yn y coleg, mae Euros wedi datblygu degau o chwaraewyr talentog lleol gan eu newid o fod yn fechgyn ysgol addawol i chwaraewyr proffesiynol, ac mae rhai ohonynt yn chwarae i'r tîm cenedlaethol erbyn hyn. Oherwydd gwaith caled ac ymrwymiad Euro, mae'r Coleg yn gyson yn y 2 safle uchaf yng Nghymru a'r 3 safle uchaf ym Mhrydain.

Y tymor diwethaf parhaodd Clwb Rygbi Llanymddyfri i herio eu gwrthwynebwyr yn Uwch Gynghrair Cymru, gan orffen yn y 5ed safle, sef safle da iawn.

 

AIL:

Austyn Shortman (Nofio)

Austyn yw prif hyfforddwr Nofio Sir Gâr, carfan perfformiad y sir. Mae heb ei ail o ran ei ymrwymiad a'i sylw i fanylion ac mae wedi creu amgylchedd i nofwyr fwynhau a bod yn llwyddiannus.

Ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol yr Haf Nofio Cymru ym mis Awst, roedd aelodau'r garfan wedi ennill lle mewn 117 o rasys ac wedi cyflawni 74 o amseroedd gorau personol gan ennill 4 medal aur, 6 medal arian a 4 medal efydd. Mae ei wybodaeth a'r ffordd y mae'n rhyngweithio â'r nofwyr o'r safon uchaf ac mae hyn yn cael ei ddangos gan y canlyniadau maen nhw'n eu cael gyda'i gilydd.

Yn ogystal â hyn, yn ystod y 12 mis diwethaf, cafodd 5 o nofwyr eu dewis ar gyfer carfan Nofio Cymru o wahanol lefelau.

Tîm Ifanc Y Flwyddyn

Categori wedi noddi gan: TAD Builders

 

ENILLYDD:

Tîm Pêl-rwyd dan 13 Maes Y Gwendraeth (Pêl-rwyd)

Yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22, llwyddodd y Tîm Pêl-rwyd dan 13 o'r diwedd i ailddechrau eu hyfforddiant yn barod i gystadlu eto, yn dilyn pandemig COVID. Enillon nhw bob un gêm yn Nhwrnamaint Pêl-rwyd Ysgolion Brianne yn erbyn ysgolion uwchradd o bob rhan o'r sir i fod yn Bencampwyr Ysgolion Brianne.

Parhaodd y tîm i fod yn llwyddiannus iawn; yn ogystal â bod yn Bencampwyr Sirol, aethant ymlaen i fod yn Bencampwyr Cenedlaethol Cymru yr Urdd. Enillodd y merched bob un gêm yn eu grŵp yn y rownd leol ac yna ennill lle yn y Gystadleuaeth Genedlaethol. Yn y gystadleuaeth hon enillodd y tîm rownd yr wyth olaf a'r rownd gynderfynol.

Yn y rownd derfynol parhaodd y tîm i ennill gan guro Ysgol Uwchradd Caerdydd 11-2, sef buddugoliaeth enfawr, a dod yn Bencampwyr Pêl-rwyd Cenedlaethol! Mae'r merched wedi cael eu canmol am eu gwaith tîm a'u cyflawniadau eithriadol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

AIL:

Ysgol Gymraeg Gwenllian (Criced)

Roedd tîm criced Ysgol Gymraeg Gwenllian yn brysur iawn yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22 wrth iddynt gystadlu ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Does neb wedi llwyddo i guro'r tîm eleni, wrth iddynt ddod yn 1af yn rownd ardal a rownd sirol y twrnamaint cenedlaethol, cyn mynd ymlaen i ennill y Twrnamaint Criced Cenedlaethol Ysgolion a dod yn Bencampwyr Criced Cymru!

Chwaraeodd y tîm yn erbyn ysgolion ledled Cymru, gan gynnwys rhai â dros 600 o ddisgyblion, gan berfformio'n rhagorol yn gyson. Cafodd swyddogion criced, gwylwyr a dyfarnwyr eu syfrdanu gan safon eu sgiliau dal a thaflu ac, yn bwysicaf oll, eu gwaith tîm.

Maen nhw'n glod mawr i Sir Gaerfyrddin.

Tîm Y Flwyddyn

Categori wedi noddi gan: Chwaraeon Cymru

 

ENILLYDD:

Tîm Criced menywod Crwydriaid Caerfyrddin (Criced)

Cafodd tîm criced menywod Crwydriaid Caerfyrddin ei ffurfio ym Mehefin 2021 ac roedd yn cynnwys chwaraewyr nad oeddent wedi chwarae criced o'r blaen. Erbyn hyn mae'r tîm yn rhan annatod o'r clwb ac mae sawl chwaraewr bellach yn rhan o hyfforddi yn yr adran iau a gwneud penderfyniadau yn y clwb.

Mae'r tîm wedi bod yn rhan o'r cynghreiriau criced menywod cyntaf ledled Sir Gaerfyrddin. Enillon nhw bob un o'u 10 gêm yn y gynghrair dan do.

Yn dilyn y llwyddiant yn y gynghrair dan do fe enillon nhw gynghrair pêl-feddal awyr agored yr haf gan ennill 7 allan o 8 gêm i ddod â blwyddyn wych i ben.

 

AIL:

Llanelli Warriors RFC (Rygbi)

Mae Llanelli Warriors, clwb gallu cymysg, yn annog chwaraewyr ag anableddau a'r rhai sydd ag ychydig neu ddim profiad o chwarae rygbi i ymaelodi a magu hyder yn y gamp.

Mae hyfforddwyr yn cael eu recriwtio o'r garfan, boed ag anableddau dysgu neu beidio ac maent yn gallu dilyn llwybr hyfforddi'r WRU. Ym mis Mehefin 2022, bu Rhyfelwyr Llanelli yn cystadlu yn y 3ydd Twrnamaint Rygbi Gallu Cymysg Rhyngwladol lle roeddent ar frig eu grŵp yn sgil ennill pob un o'u 3 gêm, ond collon nhw o drwch blewyn yn rownd yr wyth olaf.

Canmolwyd y tîm am eu chwarae cyffrous a'u harddull eang.

Clwb Cymunedol Chwaraeon Y Flwyddyn

Categori wedi noddi gan: Coleg Sir Gar

 

ENILLYDD:

Clwb Hoci Athletic Caerfyrddin (Hoci)

Mae'r clwb wedi gweithio'n galed i ddarparu amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol, gan gynnig cyfleoedd i bob aelod, beth bynnag fo'i uchelgais, ei gymhelliant, neu ei lefel. Mae pwyllgor cryf ar waith, ac mae gan bob aelod rolau a chyfrifoldebau clir, gan gynnwys Cydlynydd Gwirfoddolwyr sy'n sicrhau bod pob gwirfoddolwr yn cael cyfleoedd i ddatblygu.

Mae gan y clwb raglen i wirfoddolwyr ifanc, fel rhan o raglen Llysgenhadon Ifanc Hoci Cymru. Drwy hyn, cynigir rolau amrywiol i aelodau ifanc, o reoli cystadlaethau i ddyfarnu, ac maen nhw'n cael eu cefnogi gan fentor.

Er mwyn lleihau costau, mae'r clwb yn codi arian drwy gydol y flwyddyn a gall chwaraewyr hefyd gael cymorth ariannol drwy'r 'Gronfa Mynediad i Hoci' ac mae ganddo siop cit lle mae chwaraewyr yn cael benthyg offer.

 

AIL:

Clwb Rhwyfo Caerfyrddin (Rhwyfo)

Mae'r clwb yn cynnig cyfle i unrhyw un gymryd rhan mewn rhwyfo mewn lleoliad hwyliog a difyr. Mae'r clwb wedi cydweithio'n dda â Phartneriaeth Diogelwch Dŵr Caerfyrddin i annog pobl i wneud y gorau o afon Tywi mewn amgylchedd diogel a hapus.

Mae'r lleoliad canolog yng Ngorllewin Cymru wedi cael effaith fawr ar y gamp ac wedi sicrhau cynnydd amlwg yn nifer y bobl sy'n rhwyfo yng Nghymru.

Mae nifer aelodau'r pwyllgor wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf ac mae aelodau'n cael eu hannog i ysgwyddo rolau er mwyn iddynt gymryd perchnogaeth o'r clwb. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolydd o blith yr aelodau iau, gyda 2 aelod iau yn y swydd ar hyn o bryd sy'n helpu o ran gwaith cynnal a chadw a chodi arian.

 

AIL:

Clwb Pêl-droed Rhydaman (Pêl-droed)

Cynhaliodd y clwb ei statws Achrediad Platinwm am yr ail flwyddyn yn sgil ei ymrwymiad i wella a datblygu'n barhaus.

Mae'r clwb yn darparu amgylchedd cynhwysol i chwaraewyr ddysgu a datblygu ac yn sicrhau bod gan bob grŵp oedran hyfforddwyr cymwys sy'n darparu cefnogaeth barhaus o ran eu datblygiad. Mae chwaraewyr ifanc yn y clwb yn cael eu hannog i wirfoddoli a helpu mewn sesiynau hyfforddi yn y grwpiau oedran mini.

Yn fwy diweddar, mae'r clwb wedi sefydlu Pwyllgor Iau gan roi cyfle i bobl ifanc wneud penderfyniadau ar y ffordd mae'r clwb yn gweithredu.

Gwobr am Wasanaeth Eithriadol i Chwaraeon

CYD-ENILLYDD:

Hayden Llewelyn (Rygbi)

Mae Hayden, sy'n 89 oed, yn parhau i wasanaethu ar bwyllgor Clwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf ac mae wedi bod yn cymryd rhan ers ei fod yn 12 oed, a hynny fel chwaraewr, cefnogwr ac aelod o'r pwyllgor.

Yn ystod y blynyddoedd roedd ei rolau'n cynnwys bod ar y pwyllgor, bod yn gyfrifol am y cit a gweithredu'r gatiau troi ar ddiwrnodau gêm, a dim ond yn ddiweddar y mae wedi rhoi'r gorau i hyn. Ef yw 2il gyn-chwaraewr hynaf y clwb.

Mae Hayden yn ysbrydoliaeth wirioneddol i'r clwb, gan ddangos teyrngarwch ac ymrwymiad dros gyfnod o 80 mlynedd.

 

CYD-ENILLYDD:

Graham Davies (Rygbi)

Mae Graham wedi neilltuo'r 45 mlynedd diwethaf i gefnogi Clwb Rygbi Llangennech. Yn y blynyddoedd mwy diweddar, mae wedi gwirfoddoli'n benodol gyda'r tîm ieuenctid.

Mae'n cyflawni llawer o dasgau fel golchi cit, marcio llinellau a threfnu bysiau, i enwi dim ond ychydig. Byddai'n teithio gyda'r tîm bob dydd Sadwrn ac ar ddiwrnodau gemau cartref byddai'n sicrhau bod bwyd wedi cael ei archebu ac yn gwerthu tocynnau loteri i helpu i godi arian ar gyfer y teithiau ieuenctid.

Heb os, mae ymrwymiad ac ymroddiad Graham i'r clwb wedi dysgu pawb i werthfawrogi'r gwaith mae'n ei wneud i helpu i gefnogi'r clwb ac ef yw calon ac enaid y tîm.