Dathlwyd chwaraewyr talentog Sir Gaerfyrddin yng Ngwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin 2021 nos Iau (10fed Mawrth).
Cafodd y gwobrau eu cynnal am yr 22ain tro yn Theatr y Ffwrnes yn Llanelli a’u trefnu gan dîm Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin.
Roedd Gwobrau Chwaraeon blynyddol Actif Sir Gaerfyrddin yn cydnabod cyflawniadau a llwyddiannau athletwyr unigol a chlybiau chwaraeon, yn ogystal â chydnabod cyfraniad hyfforddwyr ymroddedig a gwirfoddolwyr gweithgar sy'n gwneud gwahaniaeth drwy chwaraeon a'u cymunedau.
Eleni, roeddem hefyd yn diolch i unigolion, timau a chlybiau a oedd, er gwaethaf pandemig COVID-19, wedi goresgyn adfyd i ysbrydoli eraill i fod yn egnïol yn ystod y cyfyngiadau symud.
Y seremoni yw un o'r nosweithiau mwyaf mawreddog yng nghalendr chwaraeon Sir Gaerfyrddin. Nigel Owens MBE, cyflwynydd a dyfarnwr rygbi'r undeb, oedd yn cyflwyno'r noson.
Yn ogystal â Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, roedd y categorïau'n cynnwys Mabolgampwr a Mabolgampwraig Ifanc, Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol a Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel, Gwirfoddolwr Chwaraeon a Gwirfoddolwr Ifanc, Tîm Chwaraeon, Tîm Ifanc a Chlwb Cymunedol y Flwyddyn, Categori Gwasanaeth Eithriadol i Chwaraeon ac Oriel yr Anfarwolion.
Roedd mwy nag ugain o unigolion, chwe thîm a thri chlwb wedi cael eu henwebu ar gyfer cyfanswm o 12 gwobr. Roedd y gwobrau eleni yn cynnwys amrywiaeth o chwaraeon a chefndiroedd eto, gan gynnwys Athletau, Beicio, Hoci, Tennis, Gymnasteg, Pêl-droed, Codi Pwysau, Criced, Dartiau, Dawns, Rhwyfo, Karate, Judo a Saethu.
Daeth y rhai oedd wedi cyrraedd y rhestr fer, teuluoedd, cefnogwyr, noddwyr, staff y cyngor sir a gwesteion arbennig ynghyd yn y lleoliad yng nghanol canol tref Llanelli a chroesawyd y prif noddwyr, sef McDonalds.
Noddwyr categorïau gwobrau eraill eleni oedd 1st Line Funeral Care, Enzo's Homes Limited, Coleg Sir Gâr, Adeiladwyr TAD, Prifysgol Cymru - Y Drindod Dewi Sant a Chwaraeon Cymru.
Cafodd nid un ond dau o bobl sydd wedi derbyn MBE eu henwi i ymuno â rhai o Gewri Chwaraeon Sir Gaerfyrddin yn Oriel yr Anfarwolion, sef Robert Croft (Criced) a Dr Hedydd Davies (Athletau).
Cyflwynwyd gwobr INSPORT Arian i Chwaraeon a Hamdden Actif gan Tom Rogers, Rheolwr Partneriaeth o Chwaraeon Anabledd Cymru, ar ôl sicrhau achrediad am wasanaethau cynhwysol.
Elusen y noson oedd Mind Llanelli a Mind Caerfyrddin a rhoddodd gwesteion dros £700 tuag at waith yr achos teilwng hwn.
Talwyd teyrnged hefyd i'r 5 chwaraewr Rygbi Merched Cymru o Sir Gaerfyrddin a gafodd y contractau proffesiynol a lled-broffesiynol cyntaf erioed – Alisha Butchers, Bethan Lewis, Hannah Jones, Caitlin Lewis a Ffion Lewis.
Diolch i bawb a ddaeth i'r theatr, pawb a ymunodd â ni'n rhithwir ar-lein am y tro cyntaf a phawb a gefnogodd y seremoni wobrwyo nos Iau. Diolch i bawb a enwebodd unigolyn, tîm neu glwb ar gyfer y gwobrau eleni.
Pob lwc i bawb am y flwyddyn i ddod yn 2022.



RHESTR FER GWOBRAU CHWARAEON ACTIF SIR GAERFYRDDIN 2021
Personoliaeth Chwaraeon Y Flwyddyn (wedi noddi gan McDonalds)
Enillydd: Jonny Clayton (Dartiau)
Ail: Chris Gibbard (Beicio)
Ail: Lewis Evans (Athletau)
Mabolgampwr Ifanc Y Flwyddyn (wedi noddi gan 1st Line Funeral Care)
Enillydd: Frank Morgan (Athletau)
Ail: Leo Weston (Tenis)
Ail: Tomos Phillips (Jiwdo)
Mabolgampwraig Ifanc Y Flwyddyn (wedi noddi gan Prifysgol Cymru - Y Drindod Dewi Sant)
Enillydd: Emily Shawyer (Saethu)
Ail: Emily Mitchell (Traws-Ffitio a Chodi Pwysau)
Ail: Freya Evans (Gymnasteg Artistig)
Gwirfoddolwr/wraig Ifanc Y Flwyddyn
Enillydd: Josh Edwards (Pel-Droed)
Ail: Bethan Reynolds (Gymnasteg)
Ail: Savannah Thomas-Millet (Dawns)
Gwirfoddolwr/wraig Chwaraeon Y Flwyddyn
Enillydd: Geraint Burrows (Pel-Droed)
Ail: Alan Jones (Pel-Droed)
Ail: Manon Dixon (Rhwyfo)
Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol Y Flwyddyn (wedi noddi gan Enzo's Homes Limited)
Enillydd: Rob Campion (Athletau)
Ail: Gerraint Burrows (Pel-Droed)
Ail: David Thomas (Gymnasteg)
Hyfforddwr/wraig Chwaraeon O Safon Uchel Y Flwyddyn
Enillydd: David Thomas (Gymnasteg)
Ail: Carol Jones (Athletau)
Ail: Carol Sargeant (Gymnasteg)
Gwobr Goffa Ryan Jones am Wasanaeth Eithriadol i Chwaraeon
Enillydd: Dave Rayson (Pel-Droed)
Ail: John Davies (Criced)
Ail: Ralph Siggery (Athletau)
Tim Ifanc Y Flwyddyn (wedi noddi gan Coleg Sir Gar)
Enillydd: Tim Criced o Dan 17 Wanderers Caerfyrddin
Ail: Tim Iau Harriers Caerfyrddin
Ail: Tim Criced o Dan 11 Dafen
Tim Y Flwyddyn (wedi noddi gan TAD Builders)
Enillydd: Tim Karate Caerfyrddin
Ail: Tim Dynion Hoci Caerfyrddin
Ail: Tim Pel-Droed Cerdded Llangennech AFC
Clwb Chwaraeon Cymunedol Y Flwyddyn (wedi noddi gan Chwaraeon Cymru)
Enillydd: Clwb Pel-Droed Rhydaman
Ail: Clwb Pel-Droed Tre-Ioan
Ail: Rhyfelwyr Llanelli
Oriel yr Anfarwolion
Robert Croft MBE (Criced)
Dr Hedydd Davies MBE (Athletau)
-
NewyddionActif yn ennill gwobr fyd-eang am brofiad aelodauDydd Gwener, 19 Chwefror 2021
-
NewyddionDatblygiadau ffitrwydd cyffrous a gwelliant digidol i' cyflesterauDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
Yn y CymunedParhau i gysylltu â'n cwsmeriaid NERSDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
NewyddionNofio rhithwir!Dydd Mercher, 10 Chwefror 2021