GORCHUDD WYNEB

26/09/2020

O Ddydd Llun 14 Medi, bydd yn orfodol gwisgo gorchuddion wyneb yn ein canolfannau hamdden Actif.

Bydd angen i chi wisgo gorchudd wyneb pan…

  • Mynd i mewn i'n canolfannau hamdden a thra yn y canolfannau. Yn dibynnu ar yr hyn rydych chi'n ei wneud yn y ganolfan efallai y bydd disgwyl i chi ei adael ymlaen.
  • Paratoi i wneud ymarfer corff, newid, ymgymryd ag unrhyw weithgaredd nad yw'n egnïol, neu wrth adael y ganolfan hamdden, yn enwedig pan fyddwch mewn cysylltiad agos ag eraill.

Gwnewch yn siŵr bod y gorchudd wyneb yn gorchuddio'ch trwyn a'ch ceg bob amser.

Ni fydd disgwyl i chi wisgo gorchudd wyneb wrth ymarfer e.e.

  • Wrth nofio
  • Wrth gymryd rhan mewn dosbarth ffitrwydd
  • Wrth fynychu sesiwn campfa. Yn y gampfa, ni fyddwn yn gofyn i gwsmeriaid wisgo gorchuddion wyneb yn ystod ymarfer corff, ac ni fydd yn orfodol gwisgo gorchuddion wyneb i fynd o un orsaf / darn o offer i'r nesaf.

Bydd rhai sefyllfaoedd a gweithgareddau lle na fydd yn ofynnol i staff wisgo gorchudd wyneb am resymau diogelwch ac ymarferoldeb gor-redol e.e. wrth achub bywyd.

Rydym yn parhau i ofyn i staff a chwsmeriaid gadw at y canllawiau pellhau cymdeithasol wrth ymweld / gweithio yn ein canolfannau.

Diolch am eich cydweithrediad, mae hyn yn ein helpu i sicrhau diogelwch ein staff a'n cwsmeriaid.