Gweithgareddau rhaglen Pasbort AM DDIM - Ionawr i Fawrth 2023

04/01/2023

Gweithgareddau Iau / Rhaglen basbort yn ystod y tymor

Rhwng Ionawr a Mawrth 2023, byddwn yn cynnig 3 mis o raglenni pasbort Actif AM DDIM (pedair sesiwn pasbort Actif yr wythnos) fel Pêl-rwyd Iau, Hoci Iau ac Athletau Iau, yn ogystal ag amrywiaeth o sesiynau gweithgaredd iau eraill fel y gallwn cynnig cyfleoedd i blant fod yn actif gyda ni.

Bydd pob plentyn sy'n cymryd rhan mewn sesiwn rhaglen basbort* yn cael ei basbort Actif ei hun wrth ymuno er mwyn iddynt allu olrhain eu cynnydd wrth iddynt ddysgu a datblygu sgiliau newydd.

Bob tro y byddant yn meistroli sgil newydd neu'n cwblhau cam byddant yn cael stampiau, sticeri a thystysgrifau i wobrwyo eu cynnydd.

Ymhlith y Gweithgareddau Iau a gynigir am ddim bydd Hoci Iau, Pêl-rwyd Iau, Athletau Iau, Sgiliau Chwaraeon, Pêl-fasged, Pêl-droed Iau a Beiciau Cydbwysedd.

Addas i Blant 3-11 oed *dibynnol ar sesiwn. Mae'r sesiynau'n 45 munud o hyd.

Yn dechrau Dydd Llun 9fed Ionawr.

Pryd a ble mae'r sesiynau yn digwydd?

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Pel-rwyd Iau: Dydd Llun 17:00 - 17:45

Pel-droed Iau: Dydd Mawrth 16:00 - 16:45

Sgiliau ar gyfer Chwaraeon: Dydd Mercher 16:00 - 16:45

Beiciau Cydbwysedd: Dydd Iau 16:00 - 16:45

Canolfan Hamdden Llanelli

Hoci Iau: Dydd Llun 16:30 - 17:15

Athletau Iau: Dydd Llun 17:15 - 18:00

Sgiliau ar gyfer Chwaraeon: Dydd Mercher 13:30 - 14:15

Pel-rwyd Iau: Dydd Mercher 16:30 - 17:15

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Sgiliau ar gyfer Chwaraeon: Dydd Llun 16:30 - 17:15

Mini Football: Dydd Mawrth 16:30 - 17:15

Pel fasged: Dydd Mercher 16:30 - 17:15

Athletau Iau: Dydd Mercher 17:15 - 18:00

Sut i archebu sesiwn?

**Bydd angen i chi fewngofnodi fel aelod iau i archebu**

I archebu'ch lle ar-lein cliciwch yma (gan ddefnyddio'ch manylion mewngofnodi) neu trwy lawrlwytho ein app ar y app store neu google play  (chwiliwch am 'Actif Sport and Leisure') a dewis y ganolfan o'ch dewis.

Mae cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i greu cyfrif ar gael isod.

Creu cyfrif iau

Dim cyfrif gyda ni eto?

I wneud archebion gyda ni, yn gyntaf bydd angen i chi greu cyfrif. Gallwch wneud hyn trwy glicio yma.

  1. Dewiswch eich canolfan hamdden Actif agosaf
  2. Nesaf, dewiswch Talu Wrth fynd
  3. Nesaf, nodwch fanylion eich plentyn (nodwch eich cyfeiriad e-bost eich hun)
  4. Ar ôl ei gwblhau byddwch yn derbyn e-bost gennym gyda manylion eich cyfrif a fydd yn cynnwys eich ID aelod (cadwch hwn yn ddiogel)
  5. Ailadroddwch gamau 1-3 os oes angen i chi gofrestru plentyn arall.

Nawr bod gennych gyfrif bydd angen i chi nawr greu cyfrinair ar gyfer pob cyfrif. I wneud hyn bydd angen i chi,

Cam 1

Cliciwch yma i ofyn am gyfrinair. Yn gyntaf, nodwch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd i greu cyfrif eich plentyn. Os oes gennych lawer o bobl yn gysylltiedig â'r un cyfeiriad e-bost, bydd yn gofyn ichi nodi'r ID Aelod yr ydych am ei ailosod. Rhowch ID yr Aelod a chlicio ar gofyn am gyfrinair.

Cam 2:

Anfonir e-bost atoch gyda dolen i greu cyfrinair newydd. Efallai y bydd angen i chi wirio'ch ffolderau sothach / sbam. Anfonir yr e-bost o carmarthenshire@leisurecloud.net

Cam 3:

Dilynwch y ddolen i greu cyfrinair i'ch plentyn. Rhaid i'r cyfrinair fod yn 8 nod o hyd a rhaid iddo gynnwys o leiaf 1 priflythyren, 1 llythyren fach, 1 nod arbennig (e.e.% ^ & *) ac 1 rhif. Ar ôl eu creu, cadwch hyn yn ddiogel gan y bydd angen y manylion hyn arnoch i archebu lle. Os oes gennych chi fwy o blant, bydd angen i chi ailadrodd camau 1-4 ar eu cyfer hefyd. Cofiwch ddefnyddio cyfrinair gwahanol ar gyfer pob aelod.

Cam 4

Ar ôl i chi ailosod y cyfrineiriau rydych chi nawr yn barod i archebu.

Cliciwch yma i gyrchu ein system ARCHEBU AR-LEIN

Rhowch eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair (bydd angen i chi ailadrodd y broses hon ar gyfer pob plentyn). Gallwch hefyd archebu trwy ein ap (chwiliwch am Actif Sport and Leisure yn eich siop apiau) ond cofiwch y bydd angen i chi fewngofnodi / allgofnodi ar gyfer pob plentyn i archebu.

Cadwch fanylion cyfrif eich plentyn yn ddiogel oherwydd byddwch chi'n gallu defnyddio'r rhain i wneud archebion ar gyfer rhaglen dysgu nofio, rhaglenni gwyliau a mwy.

Disgrifiadau o'r Sesiynau

Criced Iau

Yn agored i bawb sy'n blant 5+ sydd naill ai'n awyddus i ddechrau'r gamp a dysgu'r sgiliau sylfaenol neu ddatblygu eu technegau, wrth gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd.

Ffitrwydd Iau

Sesiwn ffitrwydd sylfaenol llawn hwyl i blant 5+ oed. Mae pob wythnos yn sesiwn hwyliog wahanol sy'n cynnwys: HIIT, cylchedau a ffitrwydd ystwythder

Pel-rwyd Iau

Sesiwn chwaraeon penodol i oedran 5-10, yn gweithio ar sgiliau pêl, gwaith troed a gemau mini fel rhan o'r rhaglen pasbort pêl-rwyd, tra'n cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd.

Sbin Iau

Sesiwn feicio dan do llawn hwyl ar gyfer ein haelodau Iau Actif. Rhaid i rieni roi caniatâd os yw plentyn o dan 14 oed a rhaid i bob defnyddiwr fod o leiaf 4 troedfedd 11 modfedd o daldra.