Gweithgareddau yn y ganolfan
Siopa Nadolig am ddim i blant
Gwnewch siopa Nadolig ychydig yn haws eleni a gadewch i ni ofalu am eich un bach yng Nghlwb Gwyliau Actif mis Rhagfyr. Gollwng am 10yb a chasglu am 2yp! Chwarae, crefftau a gweithgareddau Nadolig.
Llanelli
Dydd Sadwrn 17eg Rhagfyr
10:00 – 14:00
£13.20
Oed 5-12
Partïon Nadolig
Parti Nadolig gyda hwyl chwyddadwy a chwarae meddal, gemau parti â thema, celf a chrefft a blwch siocled i fynd adref gyda chi.
Llanelli
Dydd Sadwrn 17eg Rhagfyr
10:00 – 12:00
Dyffryn Aman
Dydd Sadwrn 17eg Rhagfyr
10:00 – 12:00
Caerfyrddin
Dydd Gwener 16eg Rhagfyr
16:00 – 18:00
Llanymddyfri
Dydd Sadwrn 17eg Rhagfyr
10:00 – 12:00
Castell Newydd Emlyn
Dydd Sadwrn 17eg Rhagfyr
11:00 – 13:00
Partïon Nadolig yn y pwll
Caerfyrddin
Ymunwch a ni am sessiwn hwyl Atlantis ar thema'r Nadolig gyda cherddoriaeth Nadolig, cystadleuaeth goleuadau, dawns dwr Nadolig hefyd. Gellir archebu lleoedd ar yr ap o dan 'Sesiwn Nofio'. Plant dan 8oed gael eu goruchwylio. Isafswm oedran -5oed. Bydd trît melys i bob plentyn ei gasglu ar ôl y sesiwn.
Dydd Sul Rhagfyr 18fed
11:30 a 12:40
Plentyn £4.20
Oedolyn £6.40
Llanelli
Parti Nadolig gyda offer gwynt a gemau yn y pwll.
Dydd Sadwrn 17eg Rhagfyr
14:30 – 16:30
Llanymddyfri
Parti Nadolig gyda offer gwynt a gemau yn y pwll.
Dydd Sul 18fed Rhagfyr
10:00 – 12:00
Sesiwn Synhwyraidd
Caerfyrddin
Sesiynau ar thema'r Nadolig, wedi'u cynllunio i ysgogi synhwyrau eich plentyn. Yn cynnwys mynediad i ganolfan chwarae meddal, addas ar gyfer 0-3 oed.
Bob dydd Iau ym mis Rhagfyr
11:00 - 12:00
£4.20
Sesiynau chwarae anniben
Caerfyrddin
Byddwch yn llawen ac yn flêr! gyda gorsafoedd blêr ar thema'r Nadolig i'w harchwilio, hefyd yn cynnwys chwarae meddal, yn addas i blant 1-3 oed.
Bob dydd Llun ym mis Rhagfyr
11:00 - 12:00
£4.20
Clwb Gwyliau Actif Y Flwyddyn Newydd
Mae’r Clwb Gwyliau yn rhedeg pob gwyliau ysgol ac mae’n orlawn o weithgareddau hwyliog, ar gyfer plant 5-12 oed ac yn ffordd wych o gadw’n heini, cael hwyl, dysgu sgiliau newydd, a gwneud ffrindiau newydd.
Gall ein hystod o weithgareddau gwyliau gynnwys amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon, gweithgareddau yn y pwll, celf a chrefft a gemau tîm.
Llanelli
Dydd Mawrth 3ydd Ionawr, Dydd Mercher 4ydd Ionawr, Dydd Iau 5ed Ionawr, Dydd Gwener 6ed Ionawr
08:30 – 17:30 (diwrnod llawn) 08:30 - 12:30 or 13:30 - 17:30 (hanner diwrnod)
£26.80 (diwrnod llawn) £13.20 (hanner diwrnod)
Oed 5-12
Dyffryn Aman
Dydd Mawrth 3ydd Ionawr, Dydd Mercher 4ydd Ionawr, Dydd Iau 5ed Ionawr, Dydd Gwener 6ed Ionawr
08:30 – 17:30 (diwrnod llawn) 08:30 - 12:30 or 13:30 - 17:30 (hanner diwrnod)
£26.80 (diwrnod llawn) £13.20 (hanner diwrnod)
Oed 8-12
Caerfyrddin
Dydd Mawrth 3ydd Ionawr, Dydd Mercher 4ydd Ionawr, Dydd Iau 5ed Ionawr, Dydd Gwener 6ed Ionawr
08:30 – 17:30 (diwrnod llawn) 08:30 - 12:30 or 13:30 - 17:30 (hanner diwrnod)
£26.80 (diwrnod llawn) £13.20 (hanner diwrnod)
Oed 5-12
Llanymddyfri
Dydd Mawrth 3ydd Ionawr, Dydd Mercher 4ydd Ionawr, Dydd Iau 5ed Ionawr, Dydd Gwener 6ed Ionawr
08:30 – 17:30 (diwrnod llawn) 08:30 - 12:30 or 13:30 - 17:30 (hanner diwrnod)
£26.80 (diwrnod llawn)
Oed 8-12
Sut i archebu?
Dim cyfrif gyda ni eto?
I wneud archebion gyda ni, yn gyntaf bydd angen i chi greu cyfrif iau. Gallwch wneud hyn trwy glicio yma.
- Dewiswch eich canolfan hamdden Actif agosaf
- Nesaf, dewiswch Talu Wrth fynd
- Nesaf, nodwch fanylion eich plentyn (nodwch eich cyfeiriad e-bost eich hun)
- Ar ôl ei gwblhau byddwch yn derbyn e-bost gennym gyda manylion eich cyfrif a fydd yn cynnwys eich ID aelod (cadwch hwn yn ddiogel)
- Ailadroddwch gamau 1-3 os oes angen i chi gofrestru plentyn arall.
Nawr bod gennych gyfrif bydd angen i chi nawr greu cyfrinair ar gyfer pob cyfrif. I wneud hyn bydd angen i chi,
Cam 1
Cliciwch yma i ofyn am gyfrinair. Yn gyntaf, nodwch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd i greu cyfrif eich plentyn. Os oes gennych lawer o bobl yn gysylltiedig â'r un cyfeiriad e-bost, bydd yn gofyn ichi nodi'r ID Aelod yr ydych am ei ailosod. Rhowch ID yr Aelod a chlicio ar gofyn am gyfrinair.
Cam 2:
Anfonir e-bost atoch gyda dolen i greu cyfrinair newydd. Efallai y bydd angen i chi wirio'ch ffolderau sothach / sbam. Anfonir yr e-bost o carmarthenshire@leisurecloud.net
Cam 3:
Dilynwch y ddolen i greu cyfrinair i'ch plentyn. Rhaid i'r cyfrinair fod yn 8 nod o hyd a rhaid iddo gynnwys o leiaf 1 priflythyren, 1 llythyren fach, 1 nod arbennig (e.e.% ^ & *) ac 1 rhif. Ar ôl eu creu, cadwch hyn yn ddiogel gan y bydd angen y manylion hyn arnoch i archebu lle. Os oes gennych chi fwy o blant, bydd angen i chi ailadrodd camau 1-4 ar eu cyfer hefyd. Cofiwch ddefnyddio cyfrinair gwahanol ar gyfer pob aelod.
Cam 4
Ar ôl i chi ailosod y cyfrineiriau rydych chi nawr yn barod i archebu.
Cliciwch yma i gyrchu ein system ARCHEBU AR-LEIN
Rhowch eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair (bydd angen i chi ailadrodd y broses hon ar gyfer pob plentyn). Gallwch hefyd archebu trwy ein ap (chwiliwch am Actif Sport and Leisure yn eich siop apiau) ond cofiwch y bydd angen i chi fewngofnodi / allgofnodi ar gyfer pob plentyn i archebu.
Cadwch fanylion cyfrif eich plentyn yn ddiogel oherwydd byddwch chi'n gallu defnyddio'r rhain i wneud archebion ar gyfer rhaglen dysgu nofio, rhaglenni gwyliau a mwy.
Wedi creu cyfrif o'r blaen ond ddim yn gallu cofio manylion mewngofnodi eich plentyn?
A oes gan eich plentyn gyfrif gyda ni eisoes? (e.e. ydyn nhw ar ein rhaglen dysgu nofio, a ydyn nhw wedi cofrestru o'r blaen ar gyfer pasbort / rhaglen wyliau neu ar aelodaeth cartref)
Os yw'ch plentyn eisoes wedi'i gofrestru ar ein system ond wedi anghofio gwybodaeth cyfrif, ebostiwch actif@sirgar.gov.uk
-
NewyddionActif yn ennill gwobr fyd-eang am brofiad aelodauDydd Gwener, 19 Chwefror 2021
-
NewyddionDatblygiadau ffitrwydd cyffrous a gwelliant digidol i' cyflesterauDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
Yn y CymunedParhau i gysylltu â'n cwsmeriaid NERSDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
NewyddionNofio rhithwir!Dydd Mercher, 10 Chwefror 2021