Mae'r Tîm Cymunedau Actif wedi gosod her i blant ysgol tra byddant gartref: crynhoi miliwn munud actif o weithgarwch!
Hyd yn hyn mae 70 o ysgolion wedi cofrestru ar gyfer 'Miliwn Munud Actif' sy'n annog plant i gadw'n heini ac yn iach tra bo ysgolion ar gau ac ar yr un pryd cael cyfle i ennill gwerth £500 o offer chwaraeon ar gyfer eu hysgol.
Bydd yr her yn rhedeg am bedair wythnos tan fis Mawrth neu tan cyrraedd miliwn o funudau. Mae pob ysgol yn cael targed unigol yn seiliedig ar nifer y disgyblion, ac wedi i'r ysgol gyrraedd ei tharged bydd ganddi gyfle i ennill y wobr.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am Chwaraeon: “Mae hon yn her gyffrous iawn ac yn ffordd hwyliog o'n cadw ni'n egnïol wrth i ni ddysgu gartref yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o'r blaen. Mae hefyd yn gyfle perffaith i helpu ysgolion i gael budd o offer chwaraeon ychwanegol. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fod yn egnïol gan ei bod yn ein helpu i gadw'n heini, bod yn iachach ac yn fwy hyderus. Mae'r gwersi bywyd y mae chwaraeon yn eu dysgu i blant yn llawer mwy na'r manteision corfforol.”
Os nad yw unrhyw ysgol wedi cofrestru ac yn dymuno ymuno, ewch i wefan Actif.
I gael rhagor o wybodaeth am syniadau i fod yn egnïol gartref yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud a helpu eich ysgol i gyrraedd ei tharged, ewch i'n sianel You Tube ar ein gwefan.

Mwy o flogiau

Newyddion
Dyrannwyd cyllid i Chwaraeon a Hamdden Actif i ddarparu rhaglen benodol 60+ ar gyfer 2021-22.

Newyddion

Newyddion
Mae pwll nofio Llanymddyfri yn mynd i fod yn ganolfan hamdden a rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn

Yn y Cymuned
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad ac i helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus i fod mor egnïol â phosibl yn ystod y pandemig hwn.