Mae COVID-19 wedi tarfu'n sylweddol ar bob unigolyn a busnes yng Nghymru ac mae'n parhau i wneud, gan gynnwys ein canolfannau hamdden Actif, a oedd ar gau am wythnosau lawer yn gynharach eleni. Ers ailagor, rydym wedi cyflwyno gweithdrefnau newydd a mesurau cadw pellter cymdeithasol i gadw pawb yn ddiogel, yn iach ac yn egniol.
Ymarfer Corff Grwp - mae eich barn yn bwysig
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein Rhaglen Ymarfer Corff Grwp ac mae angen eich help arnom. Drwy lenwi'r holiadur byr isod bydd eich awgrymiadau a/neu ddewisiadau yn ein helpu i gynllunio, datblygu a threfnu ein hamserlenni / rhaglen ymarfer corff grwp yn y dyfodol.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig amser yn cwblhau'r holiadur ac rydym yn croesawu holiaduron sy'n cael eu llenwi ar ran pobl eraill hefyd.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Mercher 16 Rhagfyr 2020
Mwy o flogiau

Newyddion
Yn dilyn y cyhoeddiad wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn cael agor. Gall gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu i bobl ifanc (18 oed ac iau) ail-ddechrau o Ddydd Sadwrn 27 Mawrth.

Newyddion

Newyddion
Mae pwll nofio Llanymddyfri yn mynd i fod yn ganolfan hamdden a rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn

Yn y Cymuned
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad ac i helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus i fod mor egnïol â phosibl yn ystod y pandemig hwn.