Diwrnod Cwsg Y Byd - Dydd Gwener 17eg Mawrth

17/03/2023

Rhestr wirio ar gyfer gwella eich cwsg

Gall arferion da o ran cwsg wneud gwahaniaeth mawr i wella ein hiechyd corfforol a'n hiechyd meddwl. Mae sicrhau ein bod yn cael digon o gwsg o ansawdd da yn rhan bwysig iawn o ofalu am ein llesiant.

Yn ôl y Sefydliad Cwsg Cenedlaethol, mae'r awgrymiadau canlynol yn allweddol i'ch helpu i gysgu mwy a chysgu'n well.

  • Cadwch at amserlen. Ceisiwch fynd i'r gwely ar yr un amser a deffro ar yr un amser bob dydd, hyd yn oed ar benwythnosau. Mae hyn yn helpu i reoleiddio cloc eich corff a gall eich helpu i gwympo i gysgu'n haws.
  • Ceisiwch wneud pethau sy'n eich helpu i ymlacio cyn mynd i'r gwely. Gallai hyn fod yn unrhyw beth sy'n helpu i'ch tawelu - fel cael bath twym, darllen llyfr neu fyfyrio.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud rhyw fath o ymarfer corff bob dydd.
  • Ystyriwch eich ystafell wely neu eich lle cysgu. Gwnewch yn siŵr nad yw'n rhy dwym nac yn rhy oer a bod awyru digonol. Hefyd mae'n ddefnyddiol cael dim ond ychydig iawn o olau neu ddim golau o gwbl wrth gysgu. Ceisiwch leihau sŵn a phethau eraill sy'n tynnu eich sylw.
  • Cadwch eich rhythm circadaidd dan reolaeth drwy ganiatáu i olau naturiol eich helpu i ddeffro yn y bore ac osgoi goleuadau llachar cyn amser gwely.
  • Ceisiwch osgoi technoleg am ychydig oriau cyn amser gwely. Mae wedi dod i'r amlwg bod y golau glas mae rhai dyfeisiau a bylbiau yn ei dywynnu yn oedi rhyddhau'r hormon melatonin sy'n peri i chi gysgu.

Cofiwch siarad â meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol os ydych chi'n dal i gael trafferth cysgu gan y gallai fod rhesymau y tu ôl i hyn.