Diwrnod Agored

13/06/2022

Dewch i brofi popeth sydd gan Actif i’w gynnig yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin yn ystod ein diwrnod agored rhad ac am ddim ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin, ar agor o 8yb tan 6yp.

Dewch i gael golwg o gwmpas a mwynhau’r cyfleuster gyda dosbarthiadau ffitrwydd newydd Les Mills Live, cwrs antur anferth Atlantis yn y dŵr, ynghyd â gweithgareddau i’r plant a sesiynau rhad ac am ddim yn y Ganolfan Chwarae.

Cofrestrwch ar y diwrnod heb orfod talu ffi ymuno, gan arbed hyd at £20 i chi. Archebwch ar-lein neu ar yr ap i sicrhau eich lle.

Os nad oes gennych aelodaeth ar hyn o bryd, ymunwch ar-lein fel cwsmer talu fesul sesiwn ac archebwch y sesiwn sydd am ddim ar 18 a 19 Mehefin. Yna gallwch uwchraddio eich aelodaeth pan fyddwch yn ymweld â'r ganolfan.

open day

Timetable of Free Activities - Where & When?

Neuadd Chwaraeon - Hanner 1

09:00 - 09:45: Offer gwynt

10:00 - 10:45: Offer gwynt

11:00 - 11:45: Offer gwynt

12:30 - 13:15: Offer gwynt

13:30 - 14:15: Offer gwynt

14:30 - 15:15: Offer gwynt

15:30 - 16:15: Offer gwynt

Neuadd Chwaraeon - Hanner 2

09:15 - 10:00: Beiciau Balans

10:00 - 10:45: Zumba

11:00 - 11:45: Dance Aur

12:15 - 12:45: Sh'bam Byw

12:30 - 13:15: Zumba

13:30 - 14:15: Zumba

14:30 - 15:15: Pel-rwyd Iau

15:30 - 16:15: Athletau

Stiwdio Sbin

09:15 - 10:00: Body Pump Byw

10:10 - 10:55: Body Pump Byw

12:00 - 12:45: Body Pump Byw

13:00 - 13:45: Body Pump Byw

14:00 - 14:45: Body Pump Byw

15:00 - 15:45: Body Pump Byw

16:00 - 16:45: Body Pump Byw

Taith Cyfleuster

09:00 - 09:45: Taith Cyfleuster

10:15 - 11:00: Taith Cyfleuster

11:00 - 11:45: Taith Cyfleuster

12:00 - 12:45: Taith Cyfleuster

13:00 - 13:45: Taith Cyfleuster

14:00 - 14:45: Taith Cyfleuster

15:00 - 15:45: Taith Cyfleuster

16:00 - 16:45: Taith Cyfleuster

17:00 - 17:45: Taith Cyfleuster

Stiwdio Amlbwrpas

08:30 - 09:15: MyRide Virtual Spin

09:30 - 10:15: Les Mills Trip

10:15 - 10:55: Coach By Colour

10:30 - 11:15: Les Mills Trip

11:30 - 12:15: Les Mills Trip

12:30 - 13:15: MyRide Virtual Spin

13:30 - 14:15: Les Mills Trip

14:30 - 15:15: Les Mills Trip

15:30 - 16:15: MyRide Virtual Spin

17:00 - 17:45: Les Mills Trip

Neuadd Jiwdo

10:00 - 10:45: Stretch & Tone

11:00 - 11:45: Stretch & Tone

12:00 - 12:45: Stretch & Tone

13:30 - 14:15: Stretch & Tone

Stiwdio

08:30 - 09:15: Cylchedau

10:00 - 10:45: Body Blast

11:00 - 11:45: Body Combat Byw

12:00 - 12:45: Synrgy

13:00 - 15:15: Gampfa Agor

15:30 - 16:15: Synrgy

17:00 - 17:45: Skill X

Pwll Nofio

13:30 - 16:45: Offer gwynt Atlantis

Ystafell Cyfarfod

10:10 - 10:55: Body Balance Byw

10:00 - 10:45: Body Balance Ar Alw

10:30 - 11:15: Sh'bam Ar Alw

11:40 - 12:10: Les Mills Core Byw

12:30 - 13:15: Body Combat Ar Alw

14:00 - 14:45: Body Balance Ar Alw

15:30 - 16:15: Body Balance Ar Alw

Canolfan Chwarae

09:30 - 11:15: Chwarae Meddal

13:30 - 16:15: Chwarae Meddal

Ystafell Gweithgaredd

10:10 - 10:55: Babi a Fi

11:30 - 12:15: Amser Stori Actif

Cyrtiau Sboncen

09:15 - 10:00: Sboncen

10:00 - 10:45: Sboncen

10:30 - 11:15: Sboncen

11:30 - 12:15: Sboncen

12:30 - 13:15: Sboncen

13:30 - 14:15: Sboncen

14:30 - 15:15: Sboncen

15:30 - 16:15: Sboncen

DISGRIFIADAU GWEITHGAREDDAU

Cliciwch yma am Disgrifiadau Gweithgaredd

Body Pump Live

(Dwysedd Cymedrol / Uchel) BODYPUMP yw THE ORIGINAL BARBELL CLASS yr ymarfer delfrydol i unrhyw un sydd am golli pwysau, tynhau'r cyhyrau a dod yn ffit - yn gyflym (Hyd 45 munud)

Body Combat Live

(Dwysedd Cymedrol / Uchel) Mae BODYCOMBAT yn ymarfer egnïol iawn sydd wedi'i ysbrydoli gan grefft ymladd ac mae'n gwbl ddigyswllt. Beth am bwnsio a chicio eich ffordd i ffitrwydd a llosgi hyd at 570 o galorïau mewn dosbarth (Hyd 45 munud)

Les Mills Core Live

(Dwysedd Isel / Cymedrol) Mae LES MILLS CORE ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.  Mae'r symudiadau'n syml ac mae opsiynau ymarfer ysgafn yn golygu mai chi sy'n dewis pa mor ddwys fydd yr ymarfer. Mewn dim o dro byddwch yn gweld manteision gwell ffitrwydd cardio a ffitrwydd gweithredol. Fyddwch chi byth yn gwybod nes i chi roi cynnig arni. (Hyd 30 munud)

Sh'bam

(Dwysedd Cymedrol / Uchel) Ymarfer dawnsio hwyliog y mae pobl yn dwlu arno. Mae SH'BAM™ yn ymarfer heb ego – nid oes angen unrhyw brofiad o ddawnsio. Yr unig beth sydd ei angen arnoch chi yw agwedd chwareus a gwên gellweirus - felly hyd yn oed os ydych chi'n cerdded i mewn yn meddwl na allwch chi wneud hyn, byddwch chi'n cerdded allan yn gwybod eich bod chi'n gallu! (Hyd 30 munud)

Dawnsio Aur

(Dwysedd Isel / Cymedrol) Mae'r dosbarth hwn wedi'i gynllunio ar gyfer oedolion hŷn egnïol sy'n edrych am ddosbarth dawnsio wedi'i addasu sy'n ail-greu'r symudiadau gwreiddiol rydych yn dwlu arnynt ond sy'n llai egnïol. (Hyd 45 munud)

Zumba

(Dwysedd Isel / Cymedrol) Y diweddaraf mewn dawnsio Lladinaidd, gan ddefnyddio cyfuniad o symudiadau Meringue, Cumbia, Salsa, a Samba i gael eich calon i guro a'ch traed yn tapio. (Hyd 45 munud)

Ymestyn a Thynhau'r Cyhyrau

(Dwysedd Isel / Cymedrol) Ymestyn a chryfhau eich corff, yn ogystal â gwella eich cydbwysedd a’ch cydsymud. Gellir addasu symudiadau fel eu bod yn addas ar gyfer eich lefel ffitrwydd a’ch hyblygrwydd. (Hyd 45 munud)

Babi a Fi

(Dwysedd Isel / Cymedrol) Mae hwn yn ddosbarth ffitrwydd sydd wedi'i gynllunio i'ch cael chi'n ffit eto, heb orfod mynd i'r drafferth o ddod o hyd i warchodwr. Dewch â'ch babi neu'ch plentyn bach gyda chi fel y gallant gymdeithasu â phlant eraill tra bo chi yn gwneud eich ymarfer corff (Hyd 45 munud)

Ymarfer Caled i'r Corff Cyfan

(Dwysedd Uchel) Ymarfer barbwysau egnïol iawn sydd wedi'i goreograffu ac sy'n defnyddio pwysau ysgafnach, gyda llawer o ailadrodd, a fydd yn cryfhau gallu'ch corff i losgi calorïau. (Hyd 45 munud)

Cylchoedd ymarfer

(Dwysedd Cymedrol / Uchel) Dosbarth llawn her a hwyl sy'n cynnig ffordd gyflym o gadw'r galon a'r holl gyhyrau'n iach a heini (Hyd 45 munud)

Synrgy

(Dwysedd Cymedrol / Uchel) Mae Synrgy 360 yn ffrâm hyfforddi gynhwysfawr sy'n cyfuno ymarferion y corff cyfan ac ymarferion dynamig gan ddefnyddio atodiadau ymarfer arloesol megis y TRX, gorsaf ceblau ViPR, rhaffau trymion, bagiau dyrnu, cyfarpar plyometrig a llawer mwy. (Hyd 45 munud)

Skill X

(Dwysedd Cymedrol / Uchel) Sesiwn ragarweiniol NEWYDD ar Offer Skill Line. Wedi'i gynllunio i drawsnewid eich corff drwy ddatblygu cryfder a dygnwch ym mhob un o brif grwpiau'r cyhyrau (Hyd 45 munud)

Taith Campfa / Onboarding

Taith dywys o amgylch ein cyfleuster Ffitrwydd cwbl fodern sydd newydd gael ei adnewyddu. (Hyd 45 munud)

Les Mills Trip

(Dwysedd Isel / Cymedrol) Mae'r TRIP™ yn brofiad ymarfer corff llawn sy'n cyfuno sesiwn feicio 40 munud aml-gopa â thaith drwy fydoedd a grëwyd yn ddigidol. Gyda'i sgrin maint sinema a system sain, mae'r ymarfer IMMERSIVE FITNESS™  hwn yn mynd â chymhelliant ac egni i'r lefel nesaf, gan losgi llawer o galorïau. (Hyd 45 munud)

Chwarae Meddal

Mae'r ardal chwarae 3 haen yn darparu amgylchedd diogel ac ysgogol a fydd yn cadw plant yn brysur am oriau! Gall plant ddringo, cuddio a sleidio wrth iddynt gael hwyl mewn twneli, ar gerrig sarn, pontydd rhaff, sleidiau a llawer mwy! Addas i blant dan 148cm gydag ardal bwrpasol ar gyfer plant dan 3 oed. Rhaid goruchwylio plant bob amser. (Hyd 1.5 awr)

Offer Gwynt

Beth am gael hwyl yn rasio drwy'r cwrs rhwystrau gwynt, dros y clwydi a lawr y sleid. Addas ar gyfer Plant 4-8 oed (Hyd 45 munud)

Atlantis

Rhowch gynnig ar ein offer gwynt 'Atlantis' NEWYDD, y gweithgaredd perffaith yn y pwll. Mae ein cwrs rhwystrau a'n offer rhwystrau gwynt yn addo bod yn llawer o hwyl i bobl ifanc ac oedolion! Rhaid i bob defnyddiwr wisgo siaced achub. (Hyd 2 awr)

Pêl-rwyd Mini

Mae dosbarthiadau Pêl-rwyd Mini yn ffordd hwyliog ac addysgol o gyflwyno pêl-rwyd i'ch plentyn. Oed 3+ (Hyd 45 munud)

Beiciau Balans

Bwriad hyfforddiant beiciau balans yw dysgu i blant y sgiliau fydd eu hangen arnynt i ddysgu i reidio beic. Oed 2+ (Hyd 45 munud)

Chwilbedlo Rhithwir MyRide

(Dwysedd Isel / Cymedrol) Dilynwch eich hyfforddwr mewn sesiwn feicio dan do sy'n hawdd ei dilyn ac yn gynhwysfawr ar ffyrdd mwyaf heriol a thrawiadol y byd gan gynnwys coedwigoedd, mynyddoedd a llosgfynyddoedd hyd yn oed. Yn y broses, byddwch yn llosgi calorïau ac yn cael hwyl. (Hyd 45 munud)

Coach by Colour

(Dwysedd Cymedrol / Uchel) Beth am wella eich profiad beicio gan ddefnyddio 5 parth hyfforddi lliw i sicrhau eich bod yn ymarfer ar y dwysedd cywir ym mhob ymarfer. Y cyfan sydd angen ei wneud yw cyfateb y lliw sydd ar eich beic chi i'r lliw sydd ar feic yr hyfforddwr - mae'n syml, ond nid yw'n hawdd bob amser! (Hyd 45 munud)