02/03/2022

Diweddariad Ap Actif

Mae gennym newyddion cyffrous, mae ap Actif wedi cael ei adnewyddu. Gallwch barhau i archebu eich dosbarthiadau, sesiynau nofio, a sesiynau campfa trwy fynd i Archebu lle, byddwch hefyd yn dod o hyd i'r ystafell iechyd, chwaraeon raced, a llawer o weithgareddau eraill y gellir eu harchebu.

Mae Gweithgareddau Iau yn rhoi mynediad i chi i archebu’r ganolfan chwarae yng Nghaerfyrddin ynghyd â’n holl weithgareddau eraill sydd wedi’u hanelu at blant 12 oed ac iau.

Bellach mae gan Actif Unrhyw Le ardal benodol i chi fanteisio arno heb adael y tŷ, mae hwn bellach wedi’i gynnwys fel rhan o’ch aelodaeth ffitrwydd fisol neu gallwch ymuno ar wahân am £10 y mis yn unig.

Gobeithiwn y bydd y cynllun newydd yn ei gwneud yn haws i chi lywio a dod o hyd i'r sesiwn yr ydych yn edrych amdani.

Diolch yn fawr,

Tîm Actif

Diweddariad Ap Actif