Dydd Sadwrn 19 Rhagfyr am 18:45
Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd Cymru yn symud i gyfyngiadau lefel 4 erbyn hanner nos ddydd Sadwrn, 19 Rhagfyr 2020. Bydd y cyfyngiadau hyn yn berthnasol i Gymru gyfan
Beth mae hyn yn ei olygu i Ganolfannau Hamdden Actif?
- Bydd pob canolfan ar gau nes bod rhubydd pellach.
- Bydd yr holl daliadau Debyd Uniongyrchol yn cael eu rhewi ac ni fydd unrhyw daliadau yn cael eu casglu ar gyfer mis Ionawr - nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau, byddwn yn gwneud trefniadau ar eich rhan.
- Bydd yr holl gyfrifon sydd wedi'u rhewi yn parhau i fod wedi'u rhewi, gallwn eich sicrhau nad oes angen i chi wneud unrhyw beth i'ch cyfrif.
- Bydd pob aelodaeth flynyddol (365, aelodaeth nofio flynyddol) a chardiau Safonol / Tocyn Hamdden Arbennig yn cael eu hymestyn am yr amser a gollir yn ystod y cyfnod pan fydd y canolfannau ar gau.
- Bydd unrhyw un sydd wedi talu am weithgareddau neu wedi archebu llogi o 20 Rhagfyr ymlaen yn cael ei gredydu yn unol.
- Bydd dyddiad ailagor yn cael ei gyhoeddi pan fyddwn yn gwybod mwy, a bydd hyn yn unol â chyhoeddiadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn cadw ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin yn gyfredol - cliciwch yma i gael mynediad
Lawrlwythwch ein ap er mwyn cael y newyddion diweddaraf yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r ap ar gael yn yr App Store ac yn storfa Google Play. Chwiliwch am Actif Sport and Leisure.
Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn ddiogel a rheoli lledaeniad Covid-19 yn ein cymunedau.
Aros yn Egnïol dros yr ŵyl a thu hwnt!
Newyddion gwych! Rydym yn ymestyn mynediad AM DDIM i'n gwasanaeth ffrydio ar-lein / byw, Actif Unrhyw Le trwy gydol y cau (hyd at 18 Ionawr, yn amodol ar adolygiad 3 wythnos Llywodraeth Cymru).
I'r rhai ohonoch sydd wedi ail-ddechrau eich aelodaeth Debyd Uniongyrchol gyda ni neu sydd wedi ymuno fel aelod newydd yn ddiweddar, byddwch yn gallu mewngofnodi a chyrchu dros 20+ o ddosbarthiadau byw ynghyd â chynnwys ar alw yng nghysur eich cartref. Mewngofnodwch unwaith gan ddefnyddio'ch E-bost a'ch Cyfrinair - cliciwch yma.
Cwsmer wedi'i rewi a Talu Wrth Fynd - Peidiwch â cholli cyfle AM DDIM i Actif Unrhyw Le, ymunwch ar neu cyn 24 Rhagfyr
Yn syml, ail-ddechreuwch neu ymunwch ag un o'n haelodaeth Debyd Uniongyrchol, ar neu cyn 24 Rhagfyr i fwynhau mynediad AM DDIM i Actif Unrhyw Le (hyd at 18 Ionawr 2021, yn amodol ar adolygiad 3 wythnos Llywodraeth Cymru)
Aelwyd £30
£20 am aelodaeth unigol
OPSIYNAU ERAILL
AELOD WEDI'I RHEWI
Aelodaeth Actif Unrhyw Le yn unig
Cofrestrwch i aelodaeth Actif Unrhyw Le yn unig
Dim ond £10 y mis
TALU WRTH FYND
Cyrchwch y dosbarthiadau ar-lein / Fyw ar sail talu wrth fynd - £6 y dosbarth neu cofrestrwch i aelodaeth Actif Unrhyw Le yn unig
Dim ond £10 y mis
-
NewyddionActif yn ennill gwobr fyd-eang am brofiad aelodauDydd Gwener, 19 Chwefror 2021
-
NewyddionDatblygiadau ffitrwydd cyffrous a gwelliant digidol i' cyflesterauDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
Yn y CymunedParhau i gysylltu â'n cwsmeriaid NERSDydd Mercher, 10 Chwefror 2021
-
NewyddionNofio rhithwir!Dydd Mercher, 10 Chwefror 2021