Cynnig Dydd Sant Ffolant 

10/02/2022

Rydym am ddangos cariad atoch y Dydd Sant Ffolant hwn gyda'n cynnig gorau eto.

Cofrestrwch ar gyfer unrhyw aelodaeth FAST neu ffitrwydd ar 14 Chwefror a thalu dim byd am fis Mawrth, gan arbed hyd at £46 i chi!

Mae hynny'n 4 wythnos AM DDIM! Bydd eich aelodaeth yn cynnwys mynediad i'n holl gampfeydd, pyllau nofio, ystafelloedd iechyd, a dosbarthiadau ffitrwydd ar draws y sir, ac mae sesiynau sefydlu yn y gampfa wedi'u cynnwys am ddim i bob aelod, gan arbed hyd yn oed mwy i chi.

Bydd y cynnig hwn ar gael rhwng 00:01 a 23:59 ar 14 Chwefror.

Yr unig beth fydd angen i chi ei dalu fydd am 2 wythnos olaf mis Chwefror a'ch ffi ymuno; bydd y gost hon yn amrywio yn dibynnu ar yr aelodaeth rydych yn ei dewis. Bydd eich aelodaeth am ddim yn rhedeg o 1 - 31 Mawrth 2022.

Mae wedi bod yn bosibl gwneud y cynnig hwn fel rhan o gynllun #GaeafLlawnLles, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

 

Aelodaethau Actif

 

 

Cymerwch mantais o'r cyfle yma - Ymunwch ar-lein at 14 Chwefror