24/10/2022

Cynnig aelodaeth mis Medi

Mae Actif yn arbed arian i chi gyda'n cynnig mwyaf erioed. Ymunwch â ni drwy gofrestru ar gyfer aelodaeth yn ystod Hydref er mwyn mwynhau aelodaeth hanner pris!

  • Mis Hydref am hanner pris
  • Dim ffioedd ymuno

Chwilio am aelodaeth unigol? Gallwch dal arbed dros £64 pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer aelodaeth Platinwm sy'n rhoi mynediad diderfyn i chi i:

  • 6 champfa gydag offer o'r radd flaenaf
  • Dros 100 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos gan gynnwys dosbarthiadau Les Mills yn fyw ac yn rhithwir
  • Defnydd o'n 5 pwll nofio a 2 ystafell iechyd (Llanymddyfri, Caerfyrddin)
  • Sesiwn Sefydlu am ddim
  • Actif Unrhyw Le sy'n eich galluogi chi i wneud ymarfer corff ble bynnag a phryd bynnag y mae'n gyfleus i chi gyda fideos ar-alw

Peidiwch â cholli eich cyfle i fanteisio ar y cynnig anhygoel hwn, ymunwch ag Actif nawr!

*Telerau ac Amodau yn berthnasol.

Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau'r Cynnig Aelodaeth ar gyfer mis Hydref

  1. Mae'r cynnig fel a ganlyn:
    • Talu 50% o gost eich aelodaeth ddewisedig ar gyfer mis Hydref
    • Ni fydd ffi ymuno yn cael ei chodi ar aelodaeth berthnasol
  2. Mae'r cynnig ar gael i:
    • Aelodau newydd
    • Rhywun y mae ei aelodaeth wedi'i rhewi
    • Aelodau sy'n talu fesul sesiwn
    • Cwsmeriaid a oedd wedi canslo eu haelodaeth mwy na 1 mis yn ôl
  3. Nid yw'r cynnig hwn ar gael i:
    • Cwsmeriaid sydd wedi canslo eu haelodaeth lai na 1 mis yn ôl.
  4. Mae'r cynnig yn berthnasol i:
    • Platinwm,
    • Aelwyd,
    • Platinwm Corfforaethol,
    • Myfyriwr
    • Efydd
    • Efydd Corfforaethol
    • Sanclêr
    • Actif Unrhyw Le
  5. Mae arbediad o £90 yn seiliedig ar aelodaeth aelwyd am 2 fis, mae'r dadansoddiad isod:
    • £47+ £47 + ffi ymuno o £20 = £114
    • Cost y cynnig: £0 + £23.50 + £0 = £23.50
    • Cost arferol £114 – Cost y cynnig £23.50 = Arbed £90.50
  6. Os byddwch yn cofrestru ar ôl 18 Medi, byddwch yn talu'r gost is o 50% ar gyfer mis Hydref.
  7. Os byddwch yn cofrestru ar ôl 18 Hydref, byddwch yn talu'r gost is o 50% pro-rata ar gyfer gweddill mis Hydref a'r gost lawn ar gyfer mis Tachwedd.

Cynnig aelodaeth mis Hydref