12/12/2022

Beth am wneud Adduned Blwyddyn Newydd yn gynnar eleni?

Ymunwch â ni rhwng 26 Rhagfyr a'r 6 Ionawr i gael mis Ionawr am hanner pris heb orfod talu ffi ymuno! Gallech chi arbed dros £40

Cofiwch, po gynharaf y byddwch chi'n cofrestru, y mwyaf y byddwch chi'n ei arbed.

Cewch fynediad i'r canlynol:

  • 6 champfa gydag offer o'r radd flaenaf
  • Dros 100 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos yn cynnwys dosbarthiadau byw a rhithwir Les Mills.
  • Defnydd o 4 pwll nofio a 2 ystafell iechyd (Llanymddyfri, Caerfyrddin)
  • Sesiwn sefydlu am ddim
  • Dim contract!
Fitness class

Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau'r Cynnig Aelodaeth Ionawr

 

  1. Mae'r cynnig fel a ganlyn:
    • Talu 50% o gost eich aelodaeth ddewisedig ar gyfer mis Ionawr
    • Ni fydd ffi ymuno yn cael ei chodi ar aelodaeth berthnasol
  2. Mae'r cynnig ar gael i:
    • Aelodau newydd
    • Rhywun y mae ei aelodaeth wedi'i rhewi
    • Aelodau sy'n talu fesul sesiwn
    • Cwsmeriaid a oedd wedi canslo eu haelodaeth mwy na 1 mis yn ôl
  3. Nid yw'r cynnig hwn ar gael i:
    • Cwsmeriaid sydd wedi canslo eu haelodaeth lai na 1 mis yn ôl.
  4. Mae'r cynnig yn berthnasol i:
    • Platinwm,
    • Aelwyd,
    • Platinwm Corfforaethol,
    • Myfyriwr
    • Efydd
    • Efydd Corfforaethol
    • Sanclêr
    • Actif Unrhyw Le
  5. Pan fyddwch yn cofrestru bydd gofyn i chi dalu gweddill mis Rhagfyr ar sail pro-rata.