DIWEDDARAF 19:20 22/02/22:
Newyddion gwych! Canolfan Hamdden Caerfyrddin yn ailagor.
Bydd Canolfan Hamdden Caerfyrddin yn ailagor yfory, dydd Mercher, 23 Chwefror yn dilyn gwaith atgyweirio dros dro i'r to a ddifrodwyd yn ystod Storm Eunice.
Mae’r sesiynau campfa, dosbarthiadau, sesiynau nofio a’r sesiynau ystafelloedd iechyd a fydd ar gael yfory yn cael eu gosod ar ap Actif a'r 'porth archebu ar-lein' ar y wefan ar hyn o bryd; bydd hyn yn cymryd peth amser felly cofiwch wirio eto os nad ydych yn gweld y sesiwn rydych yn ei disgwyl.
Roedd yn rhaid i ni ddileu rhai archebion oherwydd yr angen i gau'r ganolfan felly os oedd sesiwn wedi'i threfnu gyda chi ar gyfer yfory, edrychwch ar yr ap i weld a yw ar gael o hyd. Gallwch wneud hyn drwy fynd i 'fy archebion' ar yr ap ac ar-lein. Os nad oes dim yn ymddangos, yna bydd angen i chi ail-archebu'r sesiwn.
Clwb Actif a Chyrsiau Nofio Dwys – bydd y rhain yn parhau a byddwn yn cysylltu â phawb a oedd wedi archebu'r sesiynau hyn heno.
Os cewch unrhyw broblemau neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, llenwch ein ffurflen ymholiadau yma. Ni fyddwn yn gallu ateb unrhyw alwadau ffôn heno tra bod y ganolfan yn dal ar gau.
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i'n holl gwsmeriaid am eu hamynedd a'u dealltwriaeth gyda'r mater annisgwyl hwn a hoffwn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd oherwydd gorfod cau’r ganolfan.
CANOLFAN HAMDDEN |
AR AGOR/AR GAU |
Canolfan Hamdden Caerfyrddin* |
AR AGOR |
Canolfan Hamdden Llanelli |
AR AGOR |
Canolfan Hamdden Dyffryn Aman |
AR AGOR |
Canolfan Hamdden Llanymddyfri |
AR AGOR |
Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn |
AR AGOR |
Canolfan Hamdden Sancler |
AR AGOR |
Mwy o flogiau

Newyddion
Yn dilyn y cyhoeddiad wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn cael agor. Gall gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu i bobl ifanc (18 oed ac iau) ail-ddechrau o Ddydd Sadwrn 27 Mawrth.

Newyddion

Newyddion
Mae pwll nofio Llanymddyfri yn mynd i fod yn ganolfan hamdden a rhagor o ddatblygiadau cyffrous yn Sanclêr a Chastell Newydd Emlyn

Yn y Cymuned
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad ac i helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus i fod mor egnïol â phosibl yn ystod y pandemig hwn.